Adolygiad o 2022
Mae hi’n amser edrych nôl a chrynhoi 2022. Yn gyntaf, rydym am ddiolch i holl aelodau Panel Cyfryngau Cymru am gymryd yr amser i rannu manylion yr hyn ry’ch chi’n ei wylio ar y teledu ac ar gyfryngau eraill.
Diolch i gyfuniad ymdrechion ein haelodau hirsefydlog a’n haelodau newydd o Banel Cyfryngau Cymru, rydym wedi gallu danfon talebau siopa gwerth £11,840 yn 2022, a hynny’n syml am lenwi holiaduron.
Y llynedd rhoddodd aelodau gyfanswm hael o £1,550 o’u gwobrau i’r elusennau yng Nghymru a enwebwyd, gan roi budd i bobl eraill yng Nghymru.
Braf hefyd yw rhannu bod cynllun codi arian Panel Cyfryngau Cymru ar gyfer grwpiau cymunedol wedi dyrannu £2,810 i grwpiau cymunedol gweithgar yn 2022. Mae’n dda gweld aelodau yn codi arian ar gyfer eu cymuned leol, eu cymdeithas, neu grŵp chwaraeon! Os ydych chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod yn rhan o grŵp cymunedol ac os hoffech godi arian ychwanegol – anfonwch e-bost at ein tîm, at cymorth@panelcyfryngau.cymru, i weld sut y gallai Panel Cyfryngau Cymru eich helpu chi gyda’ch ymdrechion.
Rydym yn bwriadu bod yn weithgar yn ymweld ag amryw ddigwyddiadau cymunedol a chenedlaethol yng Nghymru dros y flwyddyn sydd i ddod – felly chwiliwch amdanom a chofiwch ddod i ddweud ‘Helô’. Yn union fel y llynedd, bydd rhai ohonoch yn enillwyr lwcus yng nghystadlaethau 2023 – felly gwyliwch am gyfleoedd i ennill gwobrau gwych.
Unwaith eto, diolch yn fawr iawn i holl aelodau Panel Cyfryngau Cymru am gwblhau eich holiaduron, a’n helpu gyda’n hymchwil – ry’n ni’n gwerthfawrogi pob un ymateb yn fawr iawn, ac rydych yn helpu i lunio dyfodol teledu, radio, gêmau, a chyfryngau ar-lein yng Nghymru.
Dyma ddymuno blwyddyn hapus, iach, a gwerth chweil i chi yn 2023!
Gwobrau gwych am eich barn ar deledu yng Nghymru