AT SYLW POB AELOD
Mae’r dyddiad cau ar gyfer llenwi’ch holiaduron Panel Cyfryngau Cymru bob wythnos wedi newid i ddydd Iau, 8am. Byddwch yn dal i gael eich holiadur bob dydd Llun a byddwn yn gofyn i chi ei lenwi yn y tri diwrnod nesaf.
Mae Panel Cyfryngau Cymru wedi symud at holiadur ar-lein am ddau reswm: 1) gallwn gasglu mwy o wybodaeth trwy holiadur ar-lein o gymharu â’r lle cyfyngedig yn yr holiadur papur; 2) mae ymatebion ar-lein yn cael eu dychwelyd lawer yn gyflymach na holiaduron drwy’r post, ac mae hynny’n golygu bod modd i ni gyflwyno data ac adrodd yn gyflymach, sy’n angenrheidiol erbyn hyn.
Hoffwn eich atgoffa ein bod ni’n cynnig talebau Amazon, rhoddion i elusennau a rhoddion i grwpiau cymunedol fel gwobrau am holiaduron ar-lein – a chewch gyfle i fod yn rhan o’n holl gystadlaethau gwych.
Diolch am fod yn aelod o Banel Cyfryngau Cymru. Rydyn ni wir yn gwerthfawrogi eich barn am deledu a’r cyfryngau yng Nghymru.
Gwobrau gwych am eich barn ar deledu yng Nghymru