Cyhoeddiad pwysig
NEWID O HOLIADURON DRWY’R POST I HOLIADURON AR-LEIN
Bellach mae Panel Cyfryngau Cymru ar gael ar-lein yn unig.
Hyd yn hyn, rydym wedi cynnig y dewis i chi lenwi holiaduron wythnosol Panel Cyfryngau Cymru ar-lein neu drwy’r post. Yn anffodus, mae’r dewis o gymryd rhan drwy’r post wedi dod i ben.
Mae gennym ddau reswm dros symud at fethodoleg ar-lein yn unig: 1) gallwn gasglu mwy o wybodaeth drwy holiadur ar-lein o gymharu â’r lle cyfyngedig yn yr holiadur papur; 2) mae ymatebion ar-lein yn cael eu dychwelyd lawer yn gyflymach na holiaduron drwy’r post, ac mae hynny’n golygu bod modd i ni gyflwyno data ac adrodd yn gyflymach, sy’n angenrheidiol erbyn hyn.
Mae arnom angen darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am y gwasanaethau y mae S4C yn eu darparu oherwydd y newidiadau sy’n digwydd ym myd y cyfryngau.
Mae eich barn am y mathau o gyfryngau yr ydych yn eu gwylio yng Nghymru yn dal i fod yn amhrisiadwy i ni ac i S4C. Diolch i bawb sydd wedi newid at yr holiaduron ar-lein, rydym yn croesawu eich penderfyniad i barhau i fod yn rhan o Banel Cyfryngau Cymru.
Byddwch yn parhau i ennill gwobrau gwych –talebau Amazon a rhoddion i elusennau a grwpiau cymunedol yn gyfnewid am holiaduron ar-lein – a chewch gynnig i gymryd rhan ymhob un o’n cystadlaethau anhygoel i gael cyfle i ennill gwobrau gwych.
Diolch i’r holl aelodau sydd wedi bod yn cymryd rhan drwy’r post, am eich holl atebion – rydym yn gwerthfawrogi pob un ohonynt yn fawr iawn ac maen nhw wedi bod yn amhrisiadwy i ni ac i S4C.
Gwobrau gwych am eich barn ar deledu yng Nghymru