Cystadleuaeth Haf 2021
Cyfle i ennill gwyliau bach godidog, antur neu brofiad sba ym Mharc Antur Eryri / Adventure Parc Snowdonia yn Nolgarrog, Conwy.
Cyfle i ENNILL un o dair gwobr:Gwobr 1af – Taleb gwerth £100 ar gyfer gwesty’r Hilton Garden Inn/ Pod Glampio 2il Wobr – Taleb Syrffio ac Antur gwerth £75 3edd Wobr – Taleb gwerth £50 ar gyfer cyfleusterau Wave Garden Spa
Bydd angen i chi fod yn aelod o panelcyfryngau.cymru i gymryd rhan. Bydd enw aelodau yn mynd i’r het bob tro fyddwch chi’n ateb holiadur rhwng 26/7/2021- 16/8/2021.
Byddwn yn tynnu’r enwau buddugol allan o’r het ar 25/8/2021.
1. Yr hyrwyddwr yw: TRP Research Ltd (rhif y cwmni: 03825912) ac mae ei swyddfa yn Wellington House, Queen Street, Taunton, Somerset, TA1 3UF.
2. Ni chaniateir i gyflogedigion TRP Research, nac aelodau o’u teulu, nac unrhyw un arall sy’n gysylltiedig mewn unrhyw ffordd â’r gystadleuaeth, neu â’r broses o helpu gosod y gystadleuaeth, ymgeisio yn y gystadleuaeth. 3. Nid oes tâl i gystadlu, ac nid oes angen prynu unrhyw beth cyn cystadlu yn y gystadleuaeth hon. 4. Byddwn yn tynnu enw’r enillydd 25/8/2021. Ar ôl y dyddiad hwn ni chaniateir i unrhyw un arall gystadlu yn y gystadleuaeth. 5. Ni ellir derbyn cyfrifoldeb dros unrhyw ymgais nad ydyw wedi ein cyrraedd, am ba reswm bynnag. 6. Mae rheolau’r gystadleuaeth a’r wobr i bob enillydd fel a ganlyn: a. Rhaid eich bod yn aelod o Banel Cyfryngau Cymru cyn i chi allu cystadlu yn y gystadleuaeth hon. b. Cewch gystadlu unwaith yn y gystadleuaeth ar gyfer pob un o’r holiaduron canlynol y byddwch yn eu cwblhau: Holiadur 26/7/2021 – 1/8/2021 Holiadur 2/8/2021 – 8/8/2021 Holiadur 9/8/2021 – 15/8/2021 c. Byddwn yn dewis tri enillydd: Gwobr 1af Taleb gwerth £100 ar gyfer gwesty’r Hilton Garden Inn/ Pod Glampio. 2il wobr Taleb Syrffio ac Antur gwerth £75, 3edd wobr Taleb gwerth £50 i’w gwario yng nghyfleusterau Wave Garden Spa. d. Gellir defnyddio talebau fel taliad llawn neu randaliad, ac maent yn ddilys am 12 mis o ddyddiad cyhoeddi’r daleb ac ni ellir rhoi arian yn ôl yn lle’r talebau. Bydd unrhyw swm sy’n weddill ar y talebau yn cael ei ganslo pan na fydd y daleb yn ddilys mwyach ac ni ellir ymestyn cyfnod y daleb na’i defnyddio ar ôl y dyddiad hwn. 7. Mae’r hyrwyddwr yn cadw’r hawl i ganslo’r gystadleuaeth, a’r amodau a thelerau hyn. Fe fydd yr hyrwyddwr yn hysbysu’r rheiny sydd wedi cystadlu ynghylch unrhyw newid i’r gystadleuaeth cyn gynted â phosib. 8. Nid yw’r hyrwyddwr yn gyfrifol am unrhyw fanylion anghywir ynghylch y wobr a roddir i ymgeisydd gan unrhyw un arall sy’n gysylltiedig â’r gystadleuaeth hon. 9. Ni chynigir unrhyw wobr ariannol yn lle’r gwobrau. Ni ellir trosglwyddo’r gwobrau. Mae’r gwobrau’n amodol ar eu hargaeledd a chedwir yr hawl i gynnig unrhyw wobr arall o’r un gwerth yn eu lle, a hynny’n ddirybudd. 10. Dewisir enillwyr ar hap o blith pob ymgais a ddaeth i law, gan ddefnyddio meddalwedd a ddilyswyd gan TRP Research. 11. Hysbysir yr enillydd trwy e-bost neu lythyr neu galwad ffôn o fewn 28 niwrnod i’r dyddiad cau. Os nad oes modd cysylltu â’r enillydd, neu os nad yw’n hawlio’r wobr o fewn 7 niwrnod i’r hysbysiad, cedwir yr hawl i dynnu’r wobr yn ôl oddi wrth yr enillydd a dewis enillydd arall yn ei le. 12. Fe fydd yr hyrwyddwr yn dweud wrth yr enillydd pryd y gall gasglu’r wobr ac ym mhle. Bydd yr Hyrwyddwr yn rhoi enw a chyfeiriad yr enillydd i’r sawl sy’n cynnig y wobr, er mwyn trefnu anfon y wobr yn syth at yr enillydd. 13. Mae penderfyniad yr hyrwyddwr ynghylch pob mater yn ymwneud â’r gystadleuaeth yn derfynol ac ni fydd yn gohebu ynghylch y mater. |
Gwobrau gwych am eich barn ar deledu yng Nghymru