Cystadleuaeth y Gwanwyn

Mae gennym gystadleuaeth newydd i ddathlu bod y gwanwyn wedi cyrraedd.

Bydd pawb sy’n llenwi’n holiaduron hyd nes 06/05/2019 yn cael cyfle i ennill noson i ddau mewn ystafell foethus gyda golygfeydd godidog o’r môr, dros Fae Ceredigion yng ngwesty pum seren ‘Gwesty Cymru’ Aberystwyth. Byddwch hefyd yn mwynhau swper thri chwrs gyda photel o win y tŷ, a brecwast Cymreig traddodiadol!

Ddim yn aelod? Gallwch ymuno YMA.

1. Yr hyrwyddwr yw: TRP Research Ltd (rhif y cwmni: 03825912) ac mae ei swyddfa yn Wellington House, Queen Street, Taunton, Somerset, TA1 3UF.

2. Ni chaniateir i gyflogedigion TRP Research, nac aelodau o’u teulu, nac unrhyw un arall sy’n gysylltiedig mewn unrhyw ffordd â’r gystadleuaeth, neu â’r broses o helpu gosod y gystadleuaeth, ymgeisio yn y gystadleuaeth.

3. Nid oes tâl i gystadlu, ac nid oes angen prynu unrhyw beth cyn cystadlu yn y gystadleuaeth hon.

4. Byddwn yn tynnu enw’r enillydd Ddydd 7/5/2019. Ar ôl y dyddiad hwn ni chaniateir i unrhyw un arall gystadlu yn y gystadleuaeth.

5. Ni ellir derbyn cyfrifoldeb dros unrhyw ymgais nad ydyw wedi ein cyrraedd, am ba reswm bynnag.

6. Mae rheolau’r gystadleuaeth a’r wobr i bob enillydd fel a ganlyn:

a. Rhaid eich bod yn aelod o Banel Cyfryngau Cymru cyn i chi allu cystadlu yn y gystadleuaeth hon.

b. Cewch gystadlu unwaith yn y gystadleuaeth ar gyfer pob un o’r arolygon canlynol y byddwch yn eu cwblhau:

Holiadur 8/4/2019 – 14/4/2019
Holiadur 15/4/2019 – 21/4/2019
Holiadur 22/4/2019 – 28/4/2019

c. Bydd yr enillydd yn derbyn noson i ddau mewn ystafell foethus gyda golygfeydd godidog o’r môr, dros Fae Ceredigion yng ngwesty pum seren ‘Gwesty Cymru’ Aberystwyth. Byddwch hefyd yn mwynhau swper thri chwrs gyda photel o win y tŷ, a brecwast Cymreig traddodiadol.

Dyma’r manylion pwysig y mae eu hangen arnoch am y wobr a gynigir gan Banel Cyfryngau Cymru:

1 noson mewn ystafell i ddau berson
Swper tri chwrs gyda potel o win y tŷ, gwely a brecwast
Dyddiad yn dibynnu ar argaeledd
Ddim ar gael ar unrhyw Ŵyl y Banc

7. Mae’r hyrwyddwr yn cadw’r hawl i ganslo’r gystadleuaeth, a’r amodau a thelerau hyn.  Fe fydd yr hyrwyddwr yn hysbysu’r rheiny sydd wedi cystadlu ynghylch unrhyw newid i’r gystadleuaeth cyn gynted â phosib.

8. Nid yw’r hyrwyddwr yn gyfrifol am unrhyw fanylion anghywir ynghylch y wobr a roddir i ymgeisydd gan unrhyw un arall sy’n gysylltiedig â’r gystadleuaeth hon.

9. Ni chynigir unrhyw wobr ariannol yn lle’r gwobrau. Ni ellir trosglwyddo’r gwobrau. Mae’r gwobrau’n amodol ar eu hargaeledd a chedwir yr hawl i gynnig unrhyw wobr arall o’r un gwerth yn eu lle, a hynny’n ddirybudd.

10. Dewisir enillwyr ar hap o blith pob ymgais a ddaeth i law, gan ddefnyddio meddalwedd a ddilyswyd gan TRP Research.

11. Hysbysir yr enillydd trwy e-bost neu lythyr neu galwad ffôn o fewn 28 niwrnod i’r dyddiad cau. Os nad oes modd cysylltu â’r enillydd, neu os nad yw’n hawlio’r wobr o fewn 7 niwrnod i’r hysbysiad, cedwir yr hawl i dynnu’r wobr yn ôl oddi wrth yr enillydd a dewis enillydd arall yn ei le.

12. Fe fydd yr hyrwyddwr yn dweud wrth yr enillydd pryd y gall gasglu’r wobr ac ym mhle.

13. Mae penderfyniad yr hyrwyddwr ynghylch pob mater yn ymwneud â’r gystadleuaeth yn derfynol ac ni fydd yn gohebu ynghylch y mater.

Gwobrau gwych am eich barn ar deledu yng Nghymru

@PCCMPW
#cyfle i ennill! #gwobr newydd! Noson i ddau @GwestyCymru Aberystwyth. #5seren #baeceredigion… https://t.co/ffUU5yq2Ou
h J R
@PCCMPW
RT @MenterCaerdydd: Cyhoeddiad line-up @Tafwyl i roi pawb mewn hwyliau da bore ma!! // @Tafwyl have just announced the line-up for 2019 !!…
h J R
@PCCMPW
Dydd Gwyl Dewi hapus! Happy Saint David's Day! #DyddGwylDewiHapus #DyddGwylDewi #DyddGŵylDewiHapus… https://t.co/9pHgsLYuo3
h J R