Cystadleuaeth yr Haf

Cyfle i ennill pecyn haf arbennig yn cynnwys nwyddau Gog Republic, Seinydd Bluetooth Di-wifr Cludadwy, bwydydd o Gymru ac amrywiaeth o offer haf. Gwobr ddelfrydol ar gyfer ymlacio yn yr ardd, mynd am bicnic, trip i’r traeth neu antur haf wedi’r cyfnod clo!

Os hoffech chi’r cyfle i ennill ein pecyn haf, ymaelodwch â ni drwy glicio YMA ac yna bob tro y byddwch chi’n llenwi un o’n holiaduron byddwn yn rhoi eich enw yn yr het.

1. Yr hyrwyddwr yw: TRP Research Ltd (rhif y cwmni: 03825912) ac mae ei swyddfa yn Wellington House, Queen Street, Taunton, Somerset, TA1 3UF.

2. Ni chaniateir i gyflogedigion TRP Research, nac aelodau o’u teulu, nac unrhyw un arall sy’n gysylltiedig mewn unrhyw ffordd â’r gystadleuaeth, neu â’r broses o helpu gosod y gystadleuaeth, ymgeisio yn y gystadleuaeth.

3. Nid oes tâl i gystadlu, ac nid oes angen prynu unrhyw beth cyn cystadlu yn y gystadleuaeth hon.

4. Byddwn yn tynnu enw’r enillydd Ddydd 21/7/2020.  Ar ôl y dyddiad hwn ni chaniateir i unrhyw un arall gystadlu yn y gystadleuaeth.

5. Ni ellir derbyn cyfrifoldeb dros unrhyw ymgais nad ydyw wedi ein cyrraedd, am ba reswm bynnag.

6. Mae rheolau’r gystadleuaeth a’r wobr i bob enillydd fel a ganlyn:

a. Rhaid eich bod yn aelod o Banel Cyfryngau Cymru cyn i chi allu cystadlu yn y gystadleuaeth hon.

b. Cewch gystadlu unwaith yn y gystadleuaeth ar gyfer pob un o’r arolygon canlynol y byddwch yn eu cwblhau:
Holiadur 22/6/2020 – 28/6/2020

Holiadur 29/6/2020 – 5/7/2020

Holiadur 6/7/2020 – 12/7/2020

c. Bydd yr enillydd yn derbyn pecyn yr haf, sy’n cynnwys nwyddau Gog Republic, Seinydd Bluetooth Di-wifr, bwydydd o Gymru ac amrywiaeth o offer haf.

7. Mae’r hyrwyddwr yn cadw’r hawl i ganslo’r gystadleuaeth, a’r amodau a thelerau hyn.  Fe fydd yr hyrwyddwr yn hysbysu’r rheiny sydd wedi cystadlu ynghylch unrhyw newid i’r gystadleuaeth cyn gynted â phosib.

8. Nid yw’r hyrwyddwr yn gyfrifol am unrhyw fanylion anghywir ynghylch y wobr a roddir i ymgeisydd gan unrhyw un arall sy’n gysylltiedig â’r gystadleuaeth hon.

9. Ni chynigir unrhyw wobr ariannol yn lle’r gwobrau. Ni ellir trosglwyddo’r gwobrau.  Mae’r gwobrau’n amodol ar eu hargaeledd a chedwir yr hawl i gynnig unrhyw wobr arall o’r un gwerth yn eu lle, a hynny’n ddirybudd.

10. Dewisir enillwyr ar hap o blith pob ymgais a ddaeth i law, gan ddefnyddio meddalwedd a ddilyswyd gan TRP Research.

11. Hysbysir yr enillydd trwy e-bost neu lythyr neu galwad ffôn o fewn 28 niwrnod i’r dyddiad cau. Os nad oes modd cysylltu â’r enillydd, neu os nad yw’n hawlio’r wobr o fewn 7 niwrnod i’r hysbysiad, cedwir yr hawl i dynnu’r wobr yn ôl oddi wrth yr enillydd a dewis enillydd arall yn ei le.

12. Fe fydd yr hyrwyddwr yn dweud wrth yr enillydd pryd y gall gasglu’r wobr ac ym mhle.

13. Mae penderfyniad yr hyrwyddwr ynghylch pob mater yn ymwneud â’r gystadleuaeth yn derfynol ac ni fydd yn gohebu ynghylch y mater.

Gwobrau gwych am eich barn ar deledu yng Nghymru

@PCCMPW
#Cystadleuaeth Ymunwch a https://t.co/SdgCupYZyC am gyfle i ennill pecyn haf arbennig, sy'n cynnwys nwyddau gan Go… https://t.co/f8wT438enk
h J R
@PCCMPW
#Cystadleuaeth 🌞⛱ Byddwn yn lansio'n cystadleuaeth haf yfory, felly ymunwch a https://t.co/xrgCw8bqw9 rŵan i gael b… https://t.co/Jg8w1ph4q2
h J R
@PCCMPW
Ymunwch gyda https://t.co/xrgCw8bqw9 a dewis gwobrau am lenwi'n holiaduron syml am raglenni a gwasnaethau teledu yn… https://t.co/riwz8vhrrW
h J R
@PCCMPW
Join https://t.co/oRnSqyKKeU today and get rewarded for taking our simple surveys about what you watch in Wales https://t.co/whfM4IG3N4
h J R
@PCCMPW
Gallwch gefnogi gwaith anhygoel @tyhafan am ddim drwy lenwi'n holiaduron https://t.co/Jbb66pqb6Y Join… https://t.co/sSYoBQqkBR
h J R