Cystadleuaeth yr Ŵyl 2021

Cyfle i ennill taleb ‘Bodlon’ gwerth £100 – i’w gwario ar eu casgliad o roddion a nwyddau chwaethus ar gyfer y cartref Cymreig cyfoes.

Cyfle i ENNILL: Taleb ‘Bodlon’ gwerth £100 www.bodlon.com

Bydd angen i chi fod yn aelod o panelcyfryngau.cymru i gymryd rhan.  Bydd enw aelodau yn mynd i’r het bob tro fyddwch chi’n ateb holiadur rhwng 06/12/2021 a 09/01/2022.

Byddwn yn tynnu’r enw buddugol allan o’r het ar 13/01/2022.

1. Yr hyrwyddwr yw: TRP Research Ltd (rhif y cwmni: 03825912) ac mae ei swyddfa yn Wellington House, Queen Street, Taunton, Somerset, TA1 3UF.

2. Ni chaniateir i gyflogedigion TRP Research, nac aelodau o’u teulu, nac unrhyw un arall sy’n gysylltiedig mewn unrhyw ffordd â’r gystadleuaeth, neu â’r broses o helpu gosod y gystadleuaeth, ymgeisio yn y gystadleuaeth.

3. Nid oes tâl i gystadlu, ac nid oes angen prynu unrhyw beth cyn cystadlu yn y gystadleuaeth hon.

4. Byddwn yn tynnu enwau’r enillwyr 13/1/2022.  Ar ôl y dyddiad hwn ni chaniateir i unrhyw un arall gystadlu yn y gystadleuaeth.

5. Ni ellir derbyn cyfrifoldeb dros unrhyw ymgais nad ydyw wedi ein cyrraedd, am ba reswm bynnag.

6. Mae rheolau’r gystadleuaeth a’r wobr i bob enillydd fel a ganlyn:

a. Rhaid eich bod yn aelod o Banel Cyfryngau Cymru cyn i chi allu cystadlu yn y gystadleuaeth hon.

b. Cewch gystadlu unwaith yn y gystadleuaeth ar gyfer pob un o’r holiaduron canlynol y byddwch yn eu cwblhau:
Holiadur 29/11/2021 – 5/12/2021

Holiadur 6/12/2021 – 12/12/2021

Holiadur 13/12/2021 – 19/12/2021

Holiadur 20/12/2021 – 26/12/2021

Holiadur 27/12/2021 – 2/1/2022

c. Byddwn yn dewis un enillydd a fydd yn ennill Taleb ‘Bodlon’ gwerth £100 i’w gwario ar www.bodlon.com.

d. Gellir defnyddio talebau fel taliad llawn neu randaliad, ac maent yn ddilys am 12 mis o ddyddiad cyhoeddi’r daleb ac ni ellir rhoi arian yn ôl yn lle’r talebau.  Bydd unrhyw swm sy’n weddill ar y talebau yn cael ei ganslo pan na fydd y daleb yn ddilys mwyach ac ni ellir ymestyn cyfnod y daleb na’i defnyddio ar ôl y dyddiad hwn.

7. Mae’r hyrwyddwr yn cadw’r hawl i ganslo’r gystadleuaeth, a’r amodau a thelerau hyn.  Fe fydd yr hyrwyddwr yn hysbysu’r rheiny sydd wedi cystadlu ynghylch unrhyw newid i’r gystadleuaeth cyn gynted â phosib.

8. Nid yw’r hyrwyddwr yn gyfrifol am unrhyw fanylion anghywir ynghylch y wobr a roddir i ymgeisydd gan unrhyw un arall sy’n gysylltiedig â’r gystadleuaeth hon.

9. Ni chynigir unrhyw wobr ariannol yn lle’r gwobrau. Ni ellir trosglwyddo’r gwobrau.  Mae’r gwobrau’n amodol ar eu hargaeledd a chedwir yr hawl i gynnig unrhyw wobr arall o’r un gwerth yn eu lle, a hynny’n ddirybudd.

10. Dewisir enillwyr ar hap o blith pob ymgais a ddaeth i law, gan ddefnyddio meddalwedd a ddilyswyd gan TRP Research.

11. Hysbysir yr enillydd trwy e-bost neu lythyr neu galwad ffôn o fewn 28 niwrnod i’r dyddiad cau. Os nad oes modd cysylltu â’r enillydd, neu os nad yw’n hawlio’r wobr o fewn 7 niwrnod i’r hysbysiad, cedwir yr hawl i dynnu’r wobr yn ôl oddi wrth yr enillydd a dewis enillydd arall yn ei le.

12. Fe fydd yr hyrwyddwr yn dweud wrth yr enillydd pryd y gall gasglu’r wobr ac ym mhle. Bydd yr Hyrwyddwr yn rhoi enw a chyfeiriad yr enillydd i’r sawl sy’n cynnig y wobr, er mwyn trefnu anfon y wobr yn syth at yr enillydd.

13. Mae penderfyniad yr hyrwyddwr ynghylch pob mater yn ymwneud â’r gystadleuaeth yn derfynol ac ni fydd yn gohebu ynghylch y mater.

Gwobrau gwych am eich barn ar deledu yng Nghymru

@PCCMPW
Tybed beth oeddech chi'n gwylio dros y Nadolig? Rhowch wybod eich barn am y cyfryngau yng Nghymru dros wsos y Nadolig yn eich holiadur wsos yma. So what did you watch over Christmas ? Tell us what you thought of the media in Wales in Christmas week in your survey this week. https://t.co/2MLtB9FZR5
h J R
@PCCMPW
#NadoligLlawen oddiwrth bawb yn Panel Cyfryngau Cymru #MerryChristmas from the team at Media Panel Wales https://t.co/oaB495I1zH
h J R
@PCCMPW
Cyfle arall i ennill taleb 'Bodlon' gwerth £100 ...cofiwch lenwi eich holiadur wsos yma! #Cystadleuaeth #Gwyl Another chance to win a £100 'Bodlon' voucher...remember to complete your survey this week! #Festive #Prize Draw https://t.co/3FGOvQI0sa
h J R
@PCCMPW
Cystadleuaeth yr Ŵyl! Cyfle i ennill taleb 'Bodlon' gwerth £100 - am nwyddau chwaethus i bawb. Festive Prize Draw! Win a £100 'Bodlon' voucher - for stylish homewares for all of all sorts. #bodlon #siopadolig #busnesbachcymru #shopsmallbusiness #christmas #shopping https://t.co/jYX0nagEU5
h J R
@PCCMPW
Croeso arbenning i bob un sydd newydd ymuno gyda Phanel Cyfryngau Cymru . #Ymchwil #arferiongwylio A special welcome to every one who has just joined Media Panel Wales. #viewinghabits #research https://t.co/ue9TA5hI3a
h J R