Diogelu‘ch gwybodaeth
Mae Panel Cyfryngau Cymru Media Panel Wales yn cymryd gofal mawr wrth sicrhau y cedwir yr holl wybodaeth y bydd ein haelodau yn ei rhannu gyda ni, yn ddiogel, felly rydym wedi diweddaru ein Hysbysiad Preifatrwydd i gydymffurfio â’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) newydd
Mae’r Hysbysiad hwn yn egluro beth fyddwn ni’n ei wneud gyda’r wybodaeth fyddwn ni’n ei chasglu gennych, a’ch hawliau mewn perthynas â hyn.
Fe sylwch hefyd ar gwestiwn ychwanegol yn eich holiadur dros yr wythnosau nesaf, yn gofyn i chi gytuno i’r telerau newydd.