Holiaduron Drwy’r Post
Wyddech chi fod modd cymryd rhan ym Mhanel Cyfryngau Cymru Media Panel Wales drwy’r post?
Mae Panel Cyfryngau Cymru Media Panel Wales yn cynnal ymchwil wythnosol i arferion gwylio a gwrando pobl Cymru.
Byddwn yn anfon holiaduron wythnosol, gyda chyfle i chi ddweud eich dweud am yr hyn y buoch yn ei wylio neu’n gwrando arno yn ystod yr wythnos flaenorol.
Rydym yn cynnig talebau siopa, arian i grwpiau cymunedol neu rodd i un o’n helusennau yn wobr am gymryd rhan (cliciwch YMA am fanylion) a byddwn hefyd yn cynnal cystadlaethau rheolaidd i aelodau.
Os hoffech dderbyn yr holiadur drwy’r post gallwch ymuno â ni AR-LEIN neu drwy ffonio 07494 506 962, yna byddwn yn anfon eich holiadur wythnosol atoch gydag amlen rhadbost i anfon yr holiadur yn ôl atom yn rhad ac am ddim.
Gwobrau gwych am eich barn ar deledu yng Nghymru