Polisi Preifatrwydd

Bydd unrhyw fanylion personol a rowch i ni’n aros yn gyfrinachol a diogel – ni fyddwn yn trosglwyddo unrhyw fanylion personol i unrhyw drydydd parti ar gyfer gwerthu, marchnata neu unrhyw ddiben arall.

Mae TRP Research Cyf yn dilyn Côd Ymddygiad y Gymdeithas Ymchwil (MRS) ac mae wedi’i gofrestru gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth fel rheolwr data cofrestredig (Z9272188) sy’n cydymffurfio â’r Ddeddf Diogelu Data.