Efallai bod negeseuon e-bost arolwg wedi mynd i’r ffeil “Sbam” felly edrychwch yn eich ffolder “Sbam” ac, os mai dyna sydd wedi digwydd, newidiwch eich gosodiadau i dderbyn negeseuon e-bost oddi wrth panelcyfryngau.cymru
Mae’r arolwg wythnosol yn cael ei anfon bob dydd Llun.
Ar ôl derbyn yr arolwg bob dydd Llun, mae gennych tan 8am dydd Iau i gwblhau’r arolwg.
Gallwch fynd yn ôl i unrhyw gwestiwn a newid ateb tra byddwch yn dal i fod yn yr arolwg, fodd bynnag, ni allwch newid atebion unwaith y bydd wedi ei gyflwyno.
Bydd gwobr o £5 yn cael ei hanfon atoch bob tro y byddwch yn cyrraedd 10 credyd.
Gallwch adael Panel Cyfryngau Cymru unrhyw bryd. Yn syml, cysylltwch â ni drwy ddefnyddio’r manylion isod neu ddewis yr opsiwn “Dad-danysgrifio” ar dudalen flaen unrhyw arolwg wythnosol. Gallwch ail-ymuno unrhyw bryd.