Amodau a Thelerau

Panel ymchwil i’r farchnad yw Panel Cyfryngau Cymru a TRP Research Ltd sy’n ei redeg ar ran S4C. Ei nod yw deall sut y mae Cyfryngau gwahanol yn cael eu defnyddio yng Nghymru.

Darllenwch yr Amodau a Thelerau canlynol yn ofalus.

Dylid darllen yr Amodau a Thelerau gyda’r Hysbysiad Preifatrwydd sy’n rhoi manylion sut yr ydym yn casglu’ch data personol, eu storio, eu defnyddio, eu rhannu a’u diogelu, a’r Hysbysiad Cwcis.  Wrth ymaelodi â Phanel Cyfryngau Cymru, rydych yn cytuno i’r Amodau a Thelerau hyn ac yn cadarnhau eich bod wedi darllen yr Hysbysiad Preifatrwydd a’r Hysbysiad Cwcis, wedi eu deall, ac yn cytuno iddynt.  Os nad ydych yn cytuno i’r Amodau a Thelerau hyn, yr Hysbysiad Preifatrwydd a’r Hysbysiad Cwcis, yna peidiwch â chofrestru ar gyfer Panel Cyfryngau Cymru.

Cadwn yr hawl i ddiwygio’r Amodau a Thelerau hyn a/neu’r Hysbysiad Preifatrwydd a’r Hysbysiad Cwcis, ar unrhyw adeg.  Os digwydd i ni wneud hyn, byddwn yn anfon e-bost atoch i roi gwybod i chi.  Os nad ydych yn cytuno i unrhyw un o’r newidiadau yr ydym yn eu gwneud, rhaid i chi ddatdanysgrifio o Banel Cyfryngau Cymru (gweler adran “Gadael Panel Cyfryngau Cymru”).  Fel arall, byddwn yn cymryd eich bod wedi derbyn y newidiadau a wnaed ac yn cytuno iddynt.

Trwy gofrestru ar gyfer Panel Cyfryngau Cymru, rydych yn cytuno i dderbyn holiaduron trwy e-bost.  Gallwch lenwi cymaint neu gyn lleied o holiaduron ag a fynnwch.

1. Cofrestru ar gyfer Panel Cyfryngau Cymru

Nid oes tâl am gymryd rhan ym Mhanel Cyfryngau Cymru.  Byddwn yn defnyddio unrhyw ddata personol yr ydych yn eu darparu fel y disgrifir yn ein Hysbysiad Preifatrwydd a’n Hysbysiad Cwcis yn unig, a hynny yn unol â’r Amodau a Thelerau hyn.

Er mwyn i chi gael eich derbyn fel aelod o Banel Cyfryngau Cymru, rhaid eich bod:

  • Ag un cyfrif yn unig (ni fyddwn yn derbyn cofrestriadau lluosog).
  • Yn cofrestru fel chi eich hun ac nad ydych yn esgus bod yn rhywun arall.
  • Yn unigolyn – nid yn gorfforaeth nac yn unrhyw fath o endid arall.
  • Yn llenwi’r ffurflen gofrestru yn onest ac yn gywir, gan sicrhau bod yr holl wybodaeth y gofynnir amdani yn gyflawn.
  • Yn rhoi cyfeiriad e-bost dilys. Mae angen i’r cyfeiriad e-bost hwn fod yn unigryw i chi ac ni allwch ei rannu gydag aelod arall o Banel Cyfryngau Cymru.
  • Yn byw yng Nghymru ac yn rhoi cyfeiriad preswyl.
  • Yn 16 oed neu’n hŷn.
  • DDIM yn gweithio yn y diwydiant cyfryngau yng Nghymru.

Mae’n bwysig eich bod yn gwirio’ch manylion yn ofalus wrth gofrestru ar gyfer Panel Cyfryngau Cymru.  Peidiwch ag anghofio ychwanegu cymorth@panelcyfryngau.cymru at eich cyfeiriadur er mwyn sicrhau nad ydych yn colli’ch cyfle gydag unrhyw holiaduron.  Ni allwn dderbyn cyfrifoldeb pan nad ydych yn derbyn ein holiaduron.

Rydym yn monitro cofrestriadau ein holl aelodau a chofnodion eu holiaduron fel rhan o’n gwiriadau ansawdd.  Os ydym yn darganfod / amau eich bod wedi cofrestru ar gyfer Panel Cyfryngau Cymru droeon, cadwn yr hawl i waredu un o’r cyfrifon neu bob un ohonynt, ar unwaith, yn ddirybudd, a gwrthod unrhyw gais i gofrestru gennych yn y dyfodol.  Os cewch eich tynnu oddi ar y Panel, byddwch yn colli unrhyw gredydau sydd ar ôl gennych yn eich cyfrif, ni fyddwn yn anfon unrhyw holiaduron atoch mwyach, ac ni fyddwch yn cael credydau nac unrhyw wobrau sy’n ddyledus i chi.

2. Diweddaru data personol

Chi sy’n gyfrifol am sicrhau bod eich data personol, gan gynnwys eich manylion cyswllt, yn gywir ac yn gyfredol.  Byddwn yn defnyddio’ch manylion cyswllt er mwyn anfon holiaduron a gwobrau atoch ac er mwyn cyfathrebu â chi am Banel Cyfryngau Cymru.  Gallem ddiweddu eich aelodaeth o Banel Cyfryngau Cymru yn ddirybudd os ydych ym methu â chadw’ch data personol ym gywir ac yn gyfredol.  Os bydd hyn yn digwydd, yna byddwch yn colli unrhyw gredydau sydd gennych ar ôl yn eich cyfrif, ni fyddwn yn anfon unrhyw holiaduron atoch mwyach, ac ni fyddwch yn cael unrhyw gredydau na gwobrau sy’n ddyledus i chi.

Ni allwn dderbyn cyfrifoldeb dros dalebau sy’n mynd ar goll os oeddent wedi cael eu hanfon at hen gyfeiriad am i chi beidio â diweddaru eich cyfeiriad.  E-bostiwch cymorth@panelcyfryngau.cymru neu ffoniwch 07947 129227 i ddweud wrthym am unrhyw newidiadau i’ch manylion cyswllt.

3. Derbyn credydau a gwobrau

Byddwch yn derbyn credydau tuag at y wobr o’ch dewis am bob holiadur y byddwch yn ei gwblhau.  Bydd pob credyd y byddwch yn ei ennill yn cael ei ychwanegu at eich cyfrif yn awtomatig.  Nid oes modd trosglwyddo credydau rhwng cyfrifon, nid oes ganddynt werth ariannol a gellir eu defnyddio i dalu’r wobr o’ch dewis yn unig.  Unwaith y byddwn wedi anfon eich gwobr atoch, ni ellir ei dychwelyd na’i chyfnewid.  Am i chi gymryd rhan yn ein holiaduron, cewch eich gwobrwyo gyda thalebau siopa neu roddion i elusennau neu gallwch godi arian i grŵp cymunedol.

TRP Research fydd yn rheoli pob gwobr.  Dylech e-bostio cymorth@panelcyfryngau.cymru neu ffonio 07947 129227 os ydych yn dymuno gofyn am newid eich gwobr.  Byddwn yn parhau i anfon gwobrau atoch tra’ch bod yn dal i fod yn aelod o Banel Cyfryngau Cymru.  Gwerth pob holiadur yw 1 credyd, oni nodir yn wahanol.  Mae hyd ein holiaduron yn amrywio ac efallai na fydd yr un cwestiynau ymhob holiadur.

I gael rhagor o wybodaeth am y gwobrau yr ydym yn eu cynnig, ewch at www.panelcyfryngau.cymru/gwobrau/.  Gallai’r gwobrau newid ar unrhyw adeg.

  • Os ydych wedi dewis taleb siopa fel eich gwobr, byddwn yn e-bostio’ch taleb gwerth £5 atoch yn awtomatig unwaith y byddwch wedi ennill 10 credyd.
  • Os ydych wedi dewis rhodd i elusen, byddwn yn talu £5 i’r elusen o’ch dewis yn awtomatig ac yn dweud wrthych ein bod wedi gwneud y taliad, unwaith y byddwch wedi ennill 10 credyd.
  • Os ydych wedi dewis rhodd i grŵp cymunedol, byddwn yn talu £50 i gyfrif banc enwebedig y grŵp unwaith y bydd y grŵp wedi ennill 100 credyd, onid ydym wedi dod i drefniant arall gyda’ch grŵp. Fel arfer, bydd y taliad hwn yn digwydd ymhen cwpwl o wythnosau wedi i’r grŵp gyrraedd y trothwy ar gyfer derbyn y taliad, pan fydd gennym fanylion banc y grŵp.  Mae hyn yn rhoi amser i ni brosesu unrhyw gredydau sy’n ddyledus a thalu i mewn i gyfrif y grŵp.  Byddwn yn anfon neges e-bost atoch chi ac aelodau eraill y grŵp unwaith y byddwn wedi talu’r grŵp.

4. Grwpiau cymunedol 

Er mwyn codi arian i grŵp cymunedol trwy lenwi ein holiaduron, bydd angen i chi enwi’r grŵp pan ofynnir i chi wneud hynny ar y ffurflen gofrestru.  Gallai grŵp cymunedol gynnwys tîm chwaraeon, côr, cymdeithas, grŵp gwirfoddol cymunedol ayb.  Cadwn yr hawl i wrthod mynediad i grwpiau penodol i Banel Cyfryngau Cymru am unrhyw reswm, gan gynnwys anonestrwydd ac am nad yw’r grŵp yn bodoli.  Os nad ydym wedi derbyn eich grŵp i Banel Cyfryngau Cymru am unrhyw reswm, byddwn yn rhoi gwybod i chi.

Rhaid bod gan bob grŵp cymunedol unigol rhwng 3 ac 20 o aelodau er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y cynllun.  Os ydych wedi dewis grŵp cymunedol wrth gofrestru, ond nid ydych wedi gallu cael y 3 aelod sy’n angenrheidiol er mwyn bod yn gymwys, efallai y  byddwn yn cysylltu â chi i weld os allai recriwtiwr ymweld â’r grŵp er mwyn annog mwy o bobl i gofrestru neu’n gofyn i chi newid at wobr arall.  Os yw’ch grŵp yn cyrraedd 20 o aelodau, sef uchafswm y nifer a ganiateir mewn grŵp, cadwn yr hawl i wrthod i unrhyw un arall o’ch grŵp gofrestru, a hynny’n ddirybudd.

Unwaith y bydd eich grŵp wedi casglu digon o gredydau, byddwn yn gofyn am fanylion banc y grŵp er mwyn i ni allu talu £50 i mewn i’r cyfrif.  Os nad ydym wedi talu’ch grŵp o’r blaen, byddwn yn gwirio’ch grŵp cyn i ni gytuno i drefnu unrhyw daliadau.  Gweler adran 3 am ragor o fanylion am dalu gwobrau.

5. Cyfeirio ffrindiau 

Gall aelodau gyfeirio’u ffrindiau at Banel Cyfryngau Cymru trwy lenwi’r ffurflen cyfeirio ffrind pan fyddwn yn chwilio am ragor o aelodau.  Rhaid eich bod yn aelod o Banel Cyfryngau Cymru ar y pryd cyn i chi allu cyfeirio ffrindiau a chael gwobrau. Yn ogystal, rhaid i’r ffrind fodloni unrhyw feini prawf ychwanegol a nodir yn y negeseuon e-bost/holiaduron ynglŷn â chyfeirio ffrind, er mwyn iddynt fod yn gymwys ar gyfer y cynllun a chael y wobr.

Rhaid i chi roi enw a chyfeiriad e-bost / rhif ffôn eich ffrind er mwyn i ni allu eu gwahodd i ymuno â Phanel Cyfryngau Cymru – sicrhewch eich bod yn gwirio’u manylion yn ofalus.  Byddwn yn anfon y gwahoddiad at eich ffrind dim ond os nad ydynt wedi bod yn aelod o Banel Cyfryngau Cymru o’r blaen.  Ni fyddwn yn gwahodd eich ffrind i ymuno â Phanel Cyfryngau Cymru os oes unrhyw fanylion ar y ffurflen cyfeirio ffrind ar goll.

Yn rhan o’r holiadur cyfeirio ffrind, gofynnwn am eich enw a’ch cyfeiriad e-bost hefyd, pan fydd hynny’n ofynnol,  er mwyn i ni gysylltu’r cyfeiriad yn ôl atoch a’ch gwobrwyo gyda’r credydau/gwobrau ychwanegol am gyfeirio ffrind.  Os na fydd y manylion yr ydych yn eu rhoi i ni yn cyfateb i’n cofnodion, ni fyddwn yn gallu gwahodd eich ffrind.

Byddwn hefyd yn cynnwys eich enw wrth wahodd eich ffrind i ymuno â Phanel Cyfryngau Cymru.  Efallai y byddwn yn cyfyngu ar nifer y ffrindiau y gallwch eu cyfeirio atom ar unrhyw adeg, a byddwn yn anfon uchafswm o ddau wahoddiad at bob ffrind, trwy neges e-bost.  Nhw sydd i ddewis a ydynt am gofrestru ar gyfer Panel Cyfryngau Cymru ai peidio.

Er mwyn i chi gael y credydau/wobr am gyfeirio ffrind, rhaid i’ch ffrind gofrestru ar gyfer Panel Cyfryngau Cymru (gweler adran 1) a rhaid bod y ddau/ddwy ohonoch yn bodloni’r meini prawf a nodir yn y neges e-bost/holiadur penodol ynglŷn â chyfeirio ffrind. Efallai na fydd y meini prawf yr un peth bob tro, felly da chi sicrhewch eich bod yn darllen y manylion yn ofalus er mwyn i chi wybod beth fydd gofyn i chi ei wneud er mwyn cael y credydau/wobr am gyfeirio ffrind. Byddwn yn rhoi’r gwobrau unwaith y byddwn wedi gwirio’r manylion, a heb fod yn hwyrach nag un mis wedi i’r holl feini prawf gael eu bodloni, cyhyd â bod y ddau/ddwy ohonoch yn dal i fod yn aelodau o Banel Cyfryngau Cymru.  Yn ogystal, rhaid bod eich ffrind:

  • Heb fod yn aelod o Banel Cyfryngau Cymru yn y gorffennol.
  • Yn defnyddio’r ddolen gyfeirio sydd wedi’i chynnwys yn yr e-bost i gofrestru ar gyfer Panel Cyfryngau Cymru.

Dylech gyfeirio’ch ffrindiau dim ond os ydynt yn hapus i chi roi eu manylion cyswllt i ni er mwyn i ni eu gwahodd i ymuno â Phanel Cyfryngau Cymru.  Os digwydd i ni gael cwyn gan eich ffrind am i ni eu gwahodd i ymuno â Phanel Cyfryngau Cymru, yna gallem ddiweddu eich aelodaeth o Banel Cyfryngau Cymru (gweler adran 15).

6. Cystadlaethau

O bryd i’w gilydd, efallai y byddwn yn cynnal cystadlaethau rhad ac am ddim.  Bydd y cystadlaethau hyn yn ddarostyngedig i Amodau a Thelerau ychwanegol a byddwn yn gosod y rhain ar wefan Panel Cyfryngau Cymru ar gychwyn y gystadleuaeth.

7. Llenwi holiaduron 

Rydym yn defnyddio technoleg i anfon eich holiaduron atoch a’u hagor / cau.  Efallai y byddwn yn gosod cwotâu ar gyfer ein holiaduron er mwyn sicrhau eu bod yn cynrychioli poblogaeth Cymru.  Unwaith y bydd y cwotâu hyn wedi eu bodloni, ni fyddwch yn gallu cymryd rhan yn yr holiadur.

Wrth i chi lenwi ein holiaduron, sicrhewch nad ydych yn rhuthro a bod gennych yr amser i lenwi’r holiaduron yn iawn.  Chi sy’n gyfrifol am lenwi eich holiaduron yn onest ac yn gywir.  Os oes gennym sail resymol i amau nad yw’r data a geir gennych yn wir neu’n gywir neu nad ydych yn llenwi ein holiaduron yn gywir, gallem ddiweddu eich aelodaeth o Banel Cyfryngau Cymru yn ddirybudd.  Os bydd hyn yn digwydd, yna byddwch yn colli unrhyw gredydau sydd gennych ar ôl yn eich cyfrif, ni fyddwn yn anfon unrhyw holiaduron atoch mwyach, ac ni fyddwch yn cael unrhyw gredydau na gwobrau sy’n ddyledus i chi.  Gallai hyn gynnwys y canlynol ond nid ydyw wedi ei gyfyngu atynt:

  • Ymatebion sydd ddim yn gwneud synnwyr.
  • Ymatebion sy’n anghyson o gymharu â gwybodaeth arall a ddarperir.
  • Peidio ag ateb yr holl gwestiynau gofynnol yn yr holiadur.
  • Rhuthro trwy’r holiadur yn rhy gyflym a pheidio ag ateb y cwestiynau’n iawn.
  • Atebion amhriodol neu sarhaus i gwestiynau.
  • Cynorthwyo aelodau eraill o ran sut i ateb eu holiadur.

8. Cyfrinachedd

Efallai y bydd yr holiaduron yr ydym yn eu hanfon atoch yn datgelu gwybodaeth gyfrinachol neu sensitif neu wybodaeth am gyfrinachau busnes S4C a’i phartneriaid.  Gallai hyn gynnwys syniadau am sioeau teledu neu radio newydd a hysbysebion ymhlith pethau eraill.  Mae’r cynnwys yr ydych yn ei weld yn ein holiadur yn parhau i fod yn eiddo absoliwt i S4C a’i phartneriaid ac ni ddylid ei rannu gydag unrhyw un arall.  Yn ogystal, ni ddylech gopïo’r wybodaeth hon, ei hargraffu na’i storio a rhaid i chi ei defnyddio at y diben o lenwi’r holiadur yn unig.  Os ydych yn methu â gwneud hyn, byddwn yn diweddu’ch aelodaeth o Banel Cyfryngau Cymru yn ddirybudd a byddwch yn colli unrhyw gredydau sydd ar ôl yn eich cyfrif, ni fyddwn yn anfon holiaduron atoch mwyach ac ni fyddwch yn cael unrhyw gredydau neu wobrau sy’n ddyledus.

Am unrhyw ddifrod yr ydych yn ei achosi trwy dorri diogelwch data, gallech fod yn atebol i dalu iawndal ariannol i Banel Cyfryngau Cymru a / neu S4C, a’u partneriaid.

9. Hysbysebu 

Ni ddylech wneud unrhyw ddatganiadau ffals neu gamarweiniol wrth hysbysebu Panel Cyfryngau Cymru neu siarad amdano, yn bersonol, ar gyfryngau cymdeithasol, mewn erthyglau neu mewn unrhyw le arall.  Fel aelod o Banel Cyfryngau Cymru chi sy’n gyfrifol am sicrhau bod unrhyw wybodaeth yr ydych yn ei chyhoeddi am Banel Cyfryngau Cymru yn gywir ac yn gyfredol.  Os ydych yn methu â gwneud hyn yna gallem ddiweddu eich aelodaeth o Banel Cyfryngau Cymru yn ddirybudd a byddwch yn colli unrhyw gredydau sydd ar ôl yn eich cyfrif, ni fyddwn yn anfon holiaduron atoch mwyach ac ni fyddwch yn cael unrhyw gredydau neu wobrau sy’n ddyledus.

10. Dolenni at wefannau eraill 

Mae unrhyw ddolenni at wefannau allanol a ddarperir gan bobl eraill, er enghraifft yr elusennau yr ydym yn gweithio gyda nhw, yn cael eu darparu er gwybodaeth i chi, yn unig.  Nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb dros y gwefannau hyn ac nid oes gennym unrhyw reolaeth dros eu cynnwys.  Bydd gan y gwefannau hyn eu Hamodau a Thelerau / Hysbysiadau Preifatrwydd / Hysbysiadau Cwcis eu hunain ac rydych yn defnyddio’r gwefannau hyn ar eich perygl eich hun.

11. Anweithgarwch

Gallwn nodi eich cyfrif fel un anweithgar am unrhyw un/rai o’r rhesymau canlynol:

  • Os oes neges yn dod yn ôl atom wrth i ni anfon neges e-bost neu holiadur atoch i ddweud nad yw’r neges neu’r holiadur wedi eich cyrraedd. Os nad ydym yn gallu cysylltu â chi trwy unrhyw ddull arall, e.e. galwad ffôn, cewch eich tynnu oddi ar Banel Cyfryngau Cymru ac ni fyddwch yn derbyn unrhyw holiaduron na negeseuon e-bost wrthym.  Felly, mae’n bwysig eich bod yn gwirio’ch manylion yn ofalus wrth gofrestru gyda Phanel Cyfryngau Cymru.  Bydd eich manylion yn cael eu cadw yn ein cofnodion, er mwyn i ni beidio â cheisio cysylltu â chi eto.
  • Os nad ydych wedi llenwi unrhyw holiaduron o gwbl neu os nad ydych wedi llenwi holiadur ers tro. Os ydych yn disgyn i un o’r grwpiau hyn, yna efallai y cewch neges e-bost, neges destun neu alwad ffôn yn holi os ydych yn dymuno parhau i fod yn aelod o Banel Cyfryngau Cymru.  Os nad ydych yn ateb y neges e-bost / neges destun neu’r alwad ffôn neu’n llenwi holiadur, cewch eich datdanysgrifio o Banel Cyfryngau Cymru (gweler adran “Gadael Panel Cyfryngau Cymru” isod).

Os ydym yn nodi eich cyfrif fel cyfrif anweithgar, ni fyddwn yn anfon unrhyw holiaduron atoch mwyach ac ni fyddwch yn cael unrhyw gredydau na gwobrau sy’n ddyledus.  Os digwydd i chi newid eich meddwl ac os hoffech fod yn rhan o Banel Cyfryngau Cymru unwaith eto, bydd gofyn i chi ailgofrestru.  Os digwydd i chi wneud hynny, ni fyddwn yn gallu trosglwyddo unrhyw gredydau o’ch cyfrif blaenorol a bydd balans eich credyd yn dechrau ar sero.

12. Saib rhag yr holiaduron

Gallwch ofyn am gael saib rhag ein holiaduron ar unrhyw adeg, er enghraifft os ydych yn mynd ar eich gwyliau.  Ni chewch unrhyw holiaduron na gwobrau yn ystod eich saib. Unwaith y bydd eich saib wedi dod i ben, byddwch yn dechrau derbyn holiaduron, credydau a gwobrau unwaith eto i’ch cyfrif.

Os hoffech gael saib rhag Panel Cyfryngau Cymru e-bostiwch cymorth@panelcyfryngau.cymru neu ffoniwch 07947 129227.

13. Grwpiau ble mae gormod wedi tanysgrifio

Rydym yn edrych ar gyfansoddiad demograffig Panel Cyfryngau Cymru drwy’r amser er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i gynrychioli poblogaeth Cymru.  O bryd i’w gilydd, efallai y bydd angen newid cydbwysedd Panel Cyfryngau Cymru, er enghraifft os ydym yn cael llawer o ymatebion gan grŵp demograffig penodol.

Os yw hyn yn digwydd, efallai y bydd angen i ni gau eich aelodaeth / eich grŵp cymunedol.  Byddwn yn cysylltu â chi bob tro i roi gwybod i chi ymlaen llaw ac yn dweud wrthych beth yw’r rheswm dros hynny, gan nodi’r dyddiad y bydd hyn yn digwydd.  Unwaith i ni ddiweddu eich aelodaeth o Banel Cyfryngau Cymru, ni fyddwch yn cael unrhyw holiaduron mwyach nac yn cael unrhyw gredydau neu wobrau sy’n ddyledus.

14. Gadael Panel Cyfryngau Cymru

Gallwch adael Panel Cyfryngau Cymru ar unrhyw adeg trwy e-bostio cymorth@panelcyfryngau.cymru neu ffonio 07947 129227.  Bydd ceisiadau i ddatdanysgrifio yn cael eu cwblhau o fewn 7 niwrnod ac unwaith y bydd hyn wedi digwydd ni fyddwn yn cysylltu â chi eto.  Byddwn yn cadw cofnod o’ch gwybodaeth bersonol at y diben o atal twyll ac er mwyn sicrhau nad ydym yn cysylltu â chi eto (e.e. trwy gyfeiriad gan ffrind).  Bydd yr holl ddata’n cael eu diogelu a’u storio yn unol â’n Hysbysiad Preifatrwydd.

Os ydych yn datdanysgrifio yna byddwch yn colli unrhyw gredydau sydd ar ôl yn eich cyfrif, ni fyddwn yn anfon holiaduron atoch mwyach ac ni fyddwch yn cael unrhyw gredydau neu wobrau sy’n ddyledus.

15. Eich tynnu oddi ar Banel Cyfryngau Cymru

Gallwn ddiweddu eich aelodaeth o Banel Cyfryngau Cymru yn ddirybudd os ydych yn methu â chadw at yr Amodau a Thelerau hyn.  Os bydd hyn yn digwydd, yna byddwch yn colli unrhyw gredydau sydd gennych ar ôl yn eich cyfrif, ni fyddwn yn anfon unrhyw holiaduron atoch mwyach, ac ni fyddwch yn cael unrhyw gredydau na gwobrau sy’n ddyledus i chi.

Os nad ydych yn bodloni’r meini prawf ar gyfer bod yn aelod o Banel Cyfryngau Cymru mwyach, fel y diffinnir yn adran 1 “Cofrestru ar gyfer Panel Cyfryngau Cymru” yna ni allwch gymryd rhan yn ein hymchwil mwyach a bydd angen i ni eich tynnu oddi ar Banel Cyfryngau Cymru.

Rydym yn adolygu ein Hamodau a Thelerau yn rheolaidd; cawsant eu diweddaru ddiwethaf ar 01/02/2023.