Hysbysiad Preifatrwydd

Panel Cyfryngau Cymru a chysylltu â ni

Panel ymchwil i’r farchnad yw Panel Cyfryngau Cymru a TRP Research Ltd sy’n ei redeg ar ran S4C. Ei nod yw deall sut y mae Cyfryngau gwahanol yn cael eu defnyddio yng Nghymru. Mae TRP Research yn gweithio gydag ystod eang o gwmnïau i’w cynorthwyo i feithrin dealltwriaeth o’u cynulleidfa.

Gellir cysylltu â ni trwy e-bostio cymorth@panelcyfryngau.cymru neu ffonio 07947 129227.

Cadw’ch data’n ddiogel – ein haddewid i chi o ran preifatrwydd

Mae Panel Cyfryngau Cymru yn mynd ati’n ofalus iawn i gadw’r holl ddata personol yr ydych wedi eu rhoi, yn ddiogel.  Rydym yn dilyn Deddf Diogelu Data 2018 a Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU).  Yn ogystal, rydym yn dilyn Cod Ymddygiad Market Research Society.   Ni yw’r rheolydd ac rydym yn gyfrifol am eich data personol.

Mae’r Hysbysiad Preifatrwydd hwn yn esbonio sut yr ydym yn mynd ati i gasglu eich data personol, eu storio, eu defnyddio, eu rhannu a’u diogelu, pan fyddwch chi’n cofrestru ar gyfer Panel Cyfryngau Cymru  ac yn cymryd rhan yn ein holiaduron neu’n cofrestru eich grŵp cymunedol.  Mae hefyd yn esbonio eich Hawliau Preifatrwydd mewn perthynas â’ch data personol.

Dylid darllen yr Hysbysiad Preifatrwydd gyda’r Amodau a Thelerau a’r Hysbysiad Cwcis.  Wrth ymuno â Phanel Cyfryngau Cymru, rydych yn cadarnhau eich bod wedi darllen yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn, yn ogystal â’r Hysbysiad Cwcis a’r Amodau a Thelerau, wedi eu deall ac yn cytuno iddynt.  Yn ogystal, trwy gymryd rhan yn ein holiaduron, rydych yn rhoi eich caniatâd i ni gasglu eich data personol a’ch atebion i’r holiaduron, eu storio a’u defnyddio, yn y ffordd a amlinellir yn yr Hysbysiad hwn.  Os nad ydych yn cytuno i’r Hysbysiad Preifatrwydd, yr Hysbysiad Cwcis a’r Amodau a Thelerau, peidiwch â chofrestru ar gyfer Panel Cyfryngau Cymru.

Sail gyfreithlon ar gyfer prosesu eich data personol

Ystyr data personol yw unrhyw wybodaeth am unigolyn sy’n eu galluogi i gael eu hadnabod.  Gallai hefyd gynnwys categorïau arbennig o ddata personol, er enghraifft ethnigrwydd, hunaniaeth genedlaethol a gwybodaeth am iechyd sy’n cael ei gweld fel gwybodaeth fwy sensitif.

Cydsyniad yw ein sail gyfreithlon ar gyfer casglu unrhyw ddata personol yr ydym yn eu casglu gennych, a’u defnyddio, fel y nodir isod.

  • Gofynnwn am eich cydsyniad i gasglu’ch data personol a’u defnyddio, pan fyddwch chi’n cofrestru gyda Phanel Cyfryngau Cymru. Mae’r cydsyniad hwn yn ein caniatáu i anfon holiaduron atoch, casglu’ch atebion o’r holiaduron, adrodd am ganfyddiadau am grwpiau gwahanol i S4C a sicrhau bod Panel Cyfryngau Cymru yn cynrychioli poblogaeth Cymru.  Mae hefyd yn golygu ein bod yn gallu anfon gwobrau atoch a chyfathrebu â chi am Banel Cyfryngau Cymru.
  • Bob tro y byddwch yn cyfeirio ffrind at Banel Cyfryngau Cymru, gofynnwn am eich cydsyniad er mwyn i ni gynnwys eich enw wrth i ni wahodd eich ffrind i ymuno â Phanel Cyfryngau Cymru.
  • Efallai y byddwn hefyd eisiau casglu gwybodaeth bersonol arall gennych nad ydyw’n dod o dan yr uchod, er enghraifft gwybodaeth am eich iechyd neu’ch ethnigrwydd. Os wnawn ni hyn, yna byddwn yn gofyn am eich cydsyniad i gasglu’r wybodaeth hon ac yn rhoi i chi’r holl fanylion fydd eu hangen arnoch ar yr adeg y byddwn yn gofyn i chi am eich cydsyniad.  Gweler adrannau “Data personol” a “Categorïau Arbennig Data Personol” isod am ragor o wybodaeth am hyn.

Data personol

Rydym yn casglu data personol fel eich enw a’ch cyfeiriad wrth i chi gofrestru gyda Phanel Cyfryngau Cymru a gofynnwn am eich cydsyniad i gasglu’r data hyn a’u defnyddio.  Cesglir y data hyn trwy holiadur papur neu holiadur ar-lein, gan ddibynnu ar eich dewis wrth i chi gofrestru ar gyfer Panel Cyfryngau Cymru.  Byddwn yn dweud wrthych pam y mae arnom angen pob darn o ddata personol wrth i chi gofrestru gyda Phanel Cyfryngau Cymru.  Os nad ydych yn rhoi’r data hyn i ni, yna ni fyddwch yn gallu ymaelodi â Phanel Cyfryngau Cymru.  O bryd i’w gilydd, efallai y byddwn yn gofyn am ddata personol eraill gennych, yn rhan o’n holiaduron.  Os wnawn ni hyn byddwn yn rhoi i chi’r holl fanylion y mae eu hangen arnoch ar yr adeg honno, er mwyn i chi allu penderfynu a ydych yn hapus i’w rhoi i ni a byddwn yn gofyn i chi am eich cydsyniad, fel sy’n briodol.

Rydym yn casglu’ch data personol ac yn eu defnyddio yn y ffyrdd canlynol gan ddefnyddio “cydsyniad” fel ein sail gyfreithlon ar gyfer eu prosesu.  Os ydym eisiau defnyddio’r wybodaeth yr ydych wedi ei rhoi i ni at unrhyw ddiben arall, neu eisiau casglu data personol pellach gennych, byddwn yn gofyn i chi am eich cydsyniad.

  • Rydym yn defnyddio’ch enw, eich cyfeiriad post, eich cyfeiriad e-bost a’ch rhif ffôn er mwyn anfon holiaduron a gwobrau atoch ac er mwyn cyfathrebu â chi am Banel Cyfryngau Cymru.  Bydd eich manylion cyswllt yn cael eu defnyddio hefyd i roi gwybod i chi os ydych wedi ennill un o’n cystadlaethau.  Byddwn yn defnyddio’r manylion cyswllt a gafwyd gennych at y diben hwn yn unig ac yn gofyn i chi am gydsyniad pellach cyn defnyddio’ch manylion cyswllt at unrhyw ddiben arall.

Cyfathrebu â chi am Banel Cyfryngau Cymru

Cyfeiriad e-bost: Byddwn yn defnyddio’ch cyfeiriad e-bost i gyfathrebu â chi, gan fwyaf, gan mai dyma sut yr ydym yn anfon holiaduron a gwobrau atoch.

Rhif ffôn: Efallai y byddwn yn anfon neges destun atoch neu’n eich ffonio o bryd i’w gilydd, i ddweud wrthych am ein holiaduron, Panel Cyfryngau Cymru ac unrhyw wobrau / gystadlaethau arbennig.  Mae pob un o’n negeseuon testun yn cynnwys yr opsiwn i optio allan os nad ydych yn dymuno derbyn negeseuon testun pellach gennym.  Os hoffech optio allan rhag cael galwadau ffôn, dywedwch wrthym trwy e-bostio cymorth@panelcyfryngau.cymru neu ddweud wrth ein cynrychiolydd dros y ffôn.

Cyfeiriad post: Efallai y byddwn yn cysylltu â chi gan ddefnyddio’ch cyfeiriad post o bryd i’w gilydd, i ddweud wrthych am ein holiaduron, Panel Cyfryngau Cymru ac unrhyw wobrau / gystadlaethau arbennig.  Os nad ydych yn dymuno i ni gysylltu â chi trwy’r post am unrhyw reswm, rhowch wybod i ni trwy e-bostio cymorth@panelcyfryngau.cymru.

Gallwch newid eich dewisiadau cyfathrebu ar unrhyw adeg trwy e-bostio cymorth@panelcyfryngau.cymru.  Sylwch nad ydych yn gallu optio allan o’r cyfathrebu trwy e-bost onid ydych yn datdanysgrifio.

  • Gofynnwn am eich dewis iaith er mwyn i ni allu cysylltu â chi yn eich dewis iaith / ieithoedd yn unol â Safonau’r Gymraeg o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011.
  • Rydym yn defnyddio’r holl wybodaeth a gesglir gennych ar y ffurflen gofrestru er mwyn sicrhau eich bod yn ateb y meini prawf ar gyfer ymaelodi â Phanel Cyfryngau Cymru ac fel cymorth i wirio ansawdd ein haelodau. Er enghraifft, er mwyn sicrhau bod gennych gyfeiriad post dilys yng Nghymru, efallai y byddwn yn defnyddio offeryn chwilio codau post Y Post Brenhinol er mwyn sicrhau bod eich cyfeiriad post yn bodoli.  Efallai y byddwn hefyd yn defnyddio data eraill a gesglir gennych yn ystod ein holiaduron er mwyn canfod gweithgarwch twyllodrus.
  • Efallai y byddwn yn defnyddio’r wybodaeth ddemograffig (e.e. oedran, rhyw, cyfeiriad ayb.) yr ydych yn ei rhoi er mwyn i ni allu penderfynu a ydych yn gymwys i lenwi holiadur ai peidio.
  • Byddwn yn defnyddio’ch oedran, rhyw, cod post a rhuglder yn y Gymraeg er mwyn sicrhau bod Panel Cyfryngau Cymru yn cynrychioli poblogaeth Cymru ac er mwyn gosod cwotâu i gyfyngu ar nifer yr ymatebion gan grwpiau gwahanol, os oes angen. Rydym yn defnyddio’r wybodaeth hon hefyd er mwyn i ni allu adrodd am ganfyddiadau ein holiaduron am grwpiau gwahanol ac anfon holiaduron perthnasol atoch.  Mae ein hadroddiadau’n seiliedig ar gategorïau ehangach ac adroddir am oedran fel ystod oedran (e.e. 16-24) ac rydym yn trawsnewid y cod post yn ardaloedd mawr (e.e. Gogledd-orllewin Cymru).

Categorïau arbennig data personol

Ar hyn o bryd, nid ydym yn gofyn i chi am unrhyw gategori arbennig o ddata fel ethnigrwydd, crefydd, gwybodaeth am iechyd yn rhan o Banel Cyfryngau Cymru. Os ydym eisiau casglu unrhyw gategori arbennig o ddata gennych, byddwn yn ei gasglu os ydych wedi rhoi eich cydsyniad clir yn unig, a byddwn yn dweud wrthych bob tro pam ein bod ni’n casglu’r wybodaeth hon gennych ar yr adeg y byddwn yn gofyn amdani.

Holiaduron

Byddwn yn anfon holiaduron atoch unwaith y byddant ar gael, onid ydych yn dewis gadael Panel Cyfryngau Cymru neu’n dweud wrthym nad ydych am i ni anfon yr holiadur atoch.  Mae eich ymatebion i’n holiaduron yn wirfoddol a chi sydd i ddewis a ydych am gymryd rhan yn yr holiaduron ai peidio.  Defnyddiwn “gydsyniad” fel ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu data er mwyn anfon holiaduron atoch, casglu’ch atebion ac adrodd am ganfyddiadau am grwpiau gwahanol i S4C.  Cesglir eich atebion unigol i’r holiaduron a byddant yn cael eu storio ar ein gweinyddion diogel yn y DU unwaith y bydd yr arolwg wedi cau. Nid ydym yn trosglwyddo’r wybodaeth hon at S4C o gwbl.  Yn ogystal, bydd eich atebion yn cael eu storio yn Tivian am gyfnod byr hyd nes i’r data gael eu prosesu.  Gweler adran “Rhannu’ch Data Personol” isod am ragor o wybodaeth am y cwmni hwn, pa ddata sy’n cael eu rhannu gyda nhw a pham y maent yn cael eu rhannu.  Yna, byddwn yn gwneud eich data’n ddienw ac yn eu cyfuno gyda data gan aelodau eraill er mwyn i ni allu cynorthwyo S4C i ddeall beth y maent yn ei olygu ac i ateb eu cwestiynau.  Unwaith y byddwn wedi gwneud hyn ni fydd yn bosibl adnabod pwy ydych chi trwy eich atebion i’r holiaduron.

Weithiau, mae ein holiaduron yn cynnwys bocsys er mwyn i chi deipio’n rhydd, er enghraifft i ofyn am eich barn am sioe deledu newydd.  Wedi i ni sicrhau eu bod yn ddienw, mae’r atebion i’r cwestiynau hyn yn cael eu trosglwyddo’n uniongyrchol i S4C.  Ni fyddwn yn gofyn i chi am unrhyw wybodaeth bersonol yn y cwestiynau hyn a gofynnwn i chi sicrhau nad ydych yn cynnwys unrhyw beth a allai ddatgelu pwy ydych chi yn y bocsys hyn.

Cyfeirio ffrind

Os ydych yn penderfynu cyfeirio ffrind at Banel Cyfryngau Cymru, bydd angen i chi roi enw a chyfeiriad e-bost / rhif ffôn eich ffrind i ni er mwyn i ni eu gwahodd i ymuno â Phanel Cyfryngau Cymru.  Dylech gyfeirio eich ffrindiau dim ond os ydynt yn hapus i chi roi eu manylion cyswllt i ni.  Byddwn yn trin manylion eich ffrind yn yr un modd ag unrhyw ddata personol eraill ac mae ganddynt yr un Hawliau Preifatrwydd ag aelod o Banel Cyfryngau Cymru.  Byddwn yn cadw manylion eich ffrindiau ar gofnod hyd nes bod y prosiect yn dod i ben, er mwyn i ni wybod pwy sydd wedi cael gwahoddiad gennym, ac fel nad ydym yn anfon gwahoddiadau niferus at yr un person.

Yn rhan o’r holiadur cyfeirio ffrind, gofynnwn am eich enw a’ch cyfeiriad e-bost hefyd, pan fydd hynny’n ofynnol,  er mwyn i ni gysylltu’r cyfeiriad yn ôl atoch a’ch gwobrwyo gyda’r credydau/gwobrau am y cyfeiriad ychwanegol.  Yn ogystal, byddwn yn cynnwys eich enw wrth wahodd eich ffrind i ymaelodi â Phanel Cyfryngau Cymru.  Byddwn yn gofyn am eich cydsyniad bob tro y byddwch yn cyfeirio ffrind ac felly defnyddiwn “gydsyniad” fel ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu’r data.

Os nad ydych yn cytuno i hyn, peidiwch â defnyddio’r Cynllun Cyfeirio Ffrind i gyfeirio’ch ffrindiau i Banel Cyfryngau Cymru.

Plant

Mae angen i chi fod yn 16 mlwydd oed neu’n hŷn cyn i chi allu cofrestru ar gyfer Panel Cyfryngau Cymru a chymryd rhan yn ein holiaduron.  Ni fyddwn yn casglu data gan unrhyw blentyn dan 16 oed os ydym yn gwybod eu bod dan 16 oed, heb ganiatâd eu rhiant/rhieni neu warcheidwad/warcheidwaid cyfreithiol.  Os ydych yn rhiant neu’n warcheidwad cyfreithiol ac yn darganfod bod eich plentyn wedi rhoi data personol i ni ac nid ydych wedi cytuno i hynny, dywedwch wrthym trwy e-bostio cymorth@panelcyfryngau.cymru neu ffoniwch 07947 129227 ac mi wnawn ddileu unrhyw wybodaeth yr ydym yn ei dal amdanynt.

Storio data a diogelu data

Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw cadw’r data personol yr ydych wedi eu rhoi i ni, yn ddiogel.

  • Unwaith i chi ddod yn aelod o Banel Cyfryngau Cymru, bydd eich data personol yn cael eu storio a’u prosesu ar ein gweinyddion diogel yn y DU, yn TIVIAN ac yn y system Sendmode. Gweler adran “Rhannu’ch Data Personol” isod am ragor o fanylion am y cwmnïau hyn, pa ddata sy’n cael eu rhannu gyda nhw a pham y maent yn cael eu rhannu.
  • Os ydych wedi cofrestru gyda Phanel Cyfryngau Cymru gan ddefnyddio ffurflen bapur mewn digwyddiad, byddwn yn storio’r ffurflen bapur yr oeddech wedi ei llenwi i gofrestru, yn ddiogel yn ein swyddfeydd.
  • Dim ond ein cyflogeion sydd ag angen mynediad at eich data personol er mwyn cyflawni cyfrifoldebau eu swydd, er enghraifft i fewnbynnu eich data, anfon holiaduron atoch ac ateb eich cwestiynau, fydd yn cael mynediad at eich data personol.
  • Bydd eich data personol yn cael eu storio a’u prosesu tra’ch bod yn aelod o Banel Cyfryngau Cymru neu hyd nes i’r prosiect ddod i ben. Os ydych yn dewis datdanysgrifio o Banel Cyfryngau Cymru, byddwn yn cadw cofnod o’ch data personol onid ydych yn gofyn i ni eu dileu (gweler “Yr hawl i ddileu” yn adran “Eich Hawliau Preifatrwydd”).  Y rheswm dros hyn yw cynorthwyo i atal twyll a sicrhau nad ydym yn cysylltu â chi eto (e.e. trwy gyfeiriad ffrind).

Rhannu’ch data personol

Mae Panel Cyfryngau Cymru yn gwarantu y bydd eich data personol yn cael eu cadw’n gyfrinachol ac yn ddiogel.  Rydym yn cadw cofnod o’r data personol yr ydych wedi eu rhoi i ni yn ein ffeiliau, ond nid ydym yn rhannu gwybodaeth sy’n datgelu pwy ydych chi gydag S4C nac yn ei defnyddio wrth adrodd oni fyddwn yn gofyn i chi am eich caniatâd ychwanegol i wneud hynny.  Os byddwn yn gofyn i chi am eich caniatâd ychwanegol, byddwn yn rhoi i chi’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch er mwyn i chi allu penderfynu a ydych yn hapus i rannu eich data yn y ffordd hon ai peidio, ac nid oes gofyn i chi gytuno i hyn er mwyn parhau i fod yn aelod o Banel Cyfryngau Cymru.  Ni fyddwn yn trosglwyddo unrhyw fanylion personol at unrhyw un arall at ddibenion gwerthu na marchnata, nac at unrhyw ddibenion eraill nad ydynt wedi eu nodi yn ein Hysbysiad Preifatrwydd.  Yn ogystal, ni fyddwn yn rhannu eich data personol o gwbl gyda’r grwpiau cymunedol neu’r elusennau yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Ni fyddwn yn rhannu’ch data personol gydag unrhyw un arall ac eithrio’n darparwyr gwasanaethau a restrir isod ac am y rhesymau a roddir.  Byddant yn cael mynediad at y lleiafswm o ddata personol sy’n angenrheidiol er mwyn iddynt allu darparu gwasanaeth penodol ar ein cyfer, ac at y data hwnnw yn unig.  Yn ogystal, mae gennym gytundebau ysgrifenedig gyda Sendmode a Tivian i sicrhau nad ydynt yn datgelu eich data i unrhyw un arall nac yn eu defnyddio at unrhyw ddiben arall.

Tivian – pob holiadur a chofrestriad:

Mae pob un o’r holiaduron (gan gynnwys unrhyw holiaduron / gofrestriadau sy’n cael eu cwblhau dros y ffôn) yn cael eu creu a’u hanfon trwy ddarparwr yr offeryn yr ydym yn ei ddefnyddio ar gyfer ein holiaduron, sef Tivian.  Caiff data personol fel eich enw a’ch cyfeiriad e-bost eu storio yn Tivian er mwyn i ni allu anfon holiaduron atoch trwy e-bost a chasglu eich atebion.  Caiff eich data personol eu storio yn Tivian hefyd am gyfnod byr wrth i chi gofrestru ar gyfer Panel Cyfryngau Cymru neu wrth i ni fwydo eich ffurflen gofrestru bapur i’r system pan fyddwch chi’n ymaelodi.  Caiff data personol eu dileu oddi ar y system pan na fydd eu hangen mwyach neu ar ôl 6 mis, pa bynnag sydd gyntaf.  Bydd data personol sy’n cael eu storio yn Tivian yn cael eu cadw yn y ganolfan data yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd.

Prosesydd Data yw Tivian, ac felly’n mae’n ofynnol iddo ddiogelu eich data.  Os hoffech weld copi o Hysbysiad Preifatrwydd Tivian, rhowch glic ar www.questback.com/assets/uploads/Survey_Privacy_Policy.pdf.  Os ydych mewn digwyddiad, holwch un o’n recriwtwyr am gopi o Hysbysiad Preifatrwydd Tivian.

Negeseua Busnes Sendmode – anfon negeseuon testun:

Weithiau, efallai y byddwn yn anfon neges destun atoch am Banel Cyfryngau Cymru trwy offeryn negeseua busnes Sendmode.  Bydd data personol fel eich enw a’ch rhif ffôn yn cael eu storio yn y system Sendmode er mwyn i hyn allu digwydd.  Caiff eich manylion eu dileu oddi ar y system pan na fydd eu hangen mwyach.  Bydd pob neges testun yn cynnwys yr opsiwn i optio allan os nad ydych yn dymuno derbyn negeseuon testun gennym mwyach.  Os ydych yn dewis optio allan, byddwn yn storio eich enw a’ch rhif ffôn yn Sendmode er mwyn sicrhau nad ydych yn cael unrhyw negeseuon testun pellach gennym.  Bydd data personol sy’n cael eu storio yn Sendmode yn cael eu cadw yn eu canolfan data yn y DU.

Prosesydd Data yw Sendmode ac felly mae’n ofynnol iddo ddiogelu eich data.  Os hoffech weld copi o Hysbysiad Preifatrwydd Sendmode, rhowch glic ar www.sendmode.co.uk/gdpr-compliance-sendmode.  Os ydych mewn digwyddiad, holwch un o’n recriwtwyr am gopi o Hysbysiad Preifatrwydd Sendmode.

Trosglwyddo data tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd

Bydd eich data personol yn cael eu trosglwyddo rhwng y DU a’r Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) yn unol â’r Hysbysiad Preifatrwydd hwn ond ni fyddant yn cael eu trosglwyddo i unrhyw le arall.

Cwcis

Gweler ein Hysbysiad Cwcis am fanylion y Cwcis a ddefnyddir ar gyfer Panel Cyfryngau Cymru a pham y mae eu hangen. 

Eich hawliau preifatrwydd

Yr hawl i gael gwybod: Mae gennych yr hawl i gael gwybod sut y mae TRP Research yn casglu’ch data personol ac yn eu defnyddio. Gweler adran “Data Personol” uchod am fanylion.

Hawl mynediad: Mae gennych yr hawl i gael mynediad at y data personol yr ydym yn eu dal amdanoch, ac os ydych yn dymuno cael mynediad at y data hyn anfonwch e-bost at cymorth@panelcyfryngau.cymru neu ffoniwch 07947 129227 gan gadarnhau pa wybodaeth yr ydych yn dymuno ei gweld.

Yr hawl i gywiro: Rydym am sicrhau bod eich data personol yn gywir ac yn gyfredol. Os oes angen diweddaru unrhyw fanylion, e-bostiwch cymorth@panelcyfryngau.cymru neu ffoniwch 07947 129227 i ddweud wrthym ac mi awn ati i ddiweddaru ein cofnodion.  Efallai y byddwn yn cysylltu â chi trwy e-bost, neges destun, llythyr neu alwad ffôn er mwyn gwirio bod y manylion yr ydych wedi eu rhoi i ni yn gywir.

Yr hawl i ddileu: Mae gennych yr hawl i ofyn i ni ddileu’r cyfan o’ch data personol.  Os ydych yn dewis gwneud hyn, yna ni fyddwch yn gallu cymryd rhan ym Mhanel Cyfryngau Cymru mwyach ac ni fyddwch yn cael unrhyw holiaduron, credydau na gwobrau gennym mwyach. Os ydych yn dymuno i ni ddileu eich data personol, cysylltwch â ni trwy e-bostio cymorth@panelcyfryngau.cymru neu ffonio 07947 129227 i ddweud wrthym.  Os caiff eich data personol eu dileu, mae yna siawns y gallem gysylltu â chi unwaith eto yn y dyfodol, e.e. trwy gyfeiriad gan ffrind, oherwydd nid oes gennym gofnod o bwy ydych chi mwyach.

Yr hawl i gyfyngu ar brosesu: Os oes gennych unrhyw bryderon am y data personol yr ydym yn eu dal amdanoch neu’r ffordd y maent wedi cael eu prosesu, yna mae gennych yr hawl i ofyn am i ni gyfyngu ar brosesu eich data.  Os ydych yn dymuno gwneud hyn, anfonwch e-bost at cymorth@panelcyfryngau.cymru neu ffoniwch 07947 129227 i ddweud wrthym.

Yr hawl i gludadwyedd data: Mae gennych yr hawl i symud eich data personol at banel ymchwil arall.  Os ydych yn dymuno gwneud hyn, yna dywedwch wrthym trwy e-bostio cymorth@panelcyfryngau.cymru neu ffonio 07947 129227 ac fe allwn drefnu bod hyn yn digwydd.

Yr hawl i wrthwynebu: Mae gennych yr hawl i wrthwynebu i’ch data personol gael eu prosesu mewn rhai amgylchiadau.  Os ydych yn gwrthwynebu i’ch data gael eu prosesu, anfonwch e-bost at cymorth@panelcyfryngau.cymru, ffoniwch 07947 129227 neu datdanysgrifiwch (gweler adran “Gadael Panel Cyfryngau Cymru”).

Hawliau mewn perthynas â gwneud penderfyniadau awtomataidd a phroffilio: Mae proffilio a gwneud penderfyniadau awtomataidd yn golygu gwneud penderfyniad gan ddefnyddio technoleg, heb gyfraniad pobl. Nid yw Panel Cyfryngau Cymru yn defnyddio proffilio na phenderfyniadau awtomataidd.

Gadael Panel Cyfryngau Cymru

Gallwch adael Panel Cyfryngau Cymru ar unrhyw adeg trwy e-bostio cymorth@panelcyfryngau.cymru neu ffonio 07947 129227.  Bydd ceisiadau i ddatdanysgrifio yn cael eu cwblhau o fewn 7 niwrnod ac unwaith y bydd hyn wedi digwydd ni fyddwn yn cysylltu â chi eto.  Byddwn yn cadw cofnod o’ch data personol at ddiben atal twyll ac er mwyn sicrhau nad ydym yn cysylltu â chi eto (e.e. trwy gyfeiriad gan ffrind).  Gweler adran “Storio Data a Diogelu Data” am ragor o fanylion.

Cadwn yr hawl i ddiweddu eich aelodaeth o Banel Cyfryngau Cymru ar unrhyw adeg – gweler ein Hamodau a Thelerau am ragor o wybodaeth am y rhesymau pam y gallai fod arnom angen gwneud hyn.

Gwybodaeth Bellach

 Os oes arnoch angen rhagor o wybodaeth neu os ydych yn dymuno cwyno, cysylltwch â ni trwy e-bostio cymorth@panelcyfryngau.cymru neu ffonio 07947 129227.  Mae gennych hawl hefyd i gyflwyno cwyn i Market Research Society ar www.mrs.org.uk/standards/complaint-handling/tab/how_to_complain neu Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth ar www.ico.org.uk/concerns.

Am ragor o wybodaeth am yr holiadur, gwobrau, newyddion Panel Cyfryngau Cymru neu Gwestiynau Cyffredin, rhowch glic ar ein gwefan www.panelcyfryngau.cymru.

Rydym yn adolygu ein Hysbysiad Preifatrwydd yn rheolaidd; y tro diwethaf i ni ddiweddaru’r hysbysiad oedd 01/02/2023.