Blog Ymweliad Tŷ Hafan

Sian ydw I ac rwy’n gweithio I Banel Cyfryngau Cymru, rydym ni fel Panel wedi cynnig cyfle i aelodau gyfrannu at Dŷ hafan drwy lenwi’n holiaduron ers ei sefydlu dwy flynedd yn ôl, ac yn ddiweddar daeth gwahoddiad i ymweld â’r hosbis i weld pa wahaniaeth mae’r arian sy’n cael ei godi yn ei wneud.
Byddai’n cwrdd â Shelly cydgysylltydd yr elusen yn y Gorllewin yn aml, ac mae ei brwdfrydedd a’i hanesion am y gofal a’r mwynhad y mae’r elusen yn ei gynnig i’r plant a’u teuluoedd wastad yn ysgogi balchder ein bod yn gallu cynnig cyfloed i gefnogi’r elusen hon, ond roedd ymweld ar hosibs a gweld gyda’n llygaid fy hun y cariad, y gofal a’r cyfleoedd anhygoel y mae tŷ Hafan yn ei gynnig i’r plant ar bobl ifanc o fewn yr hosbis ac yn eu cymunedau yn brofiad ysbrydoledig iawn.
Roedd yr hosbis yn bell o’r hyn oeddwn i wedi ei ddychmygu, mae’n le lliwgar, croesawgar a phositif sy’n llawn popeth posib i wneud bywydau a phrofiadau’r plant a’u teuluoedd mor gysurus â phosib gan gynnig cyfleoedd, gweithgareddau ac adnoddau na fyddai modd eu derbyn heblaw am fodolaeth ty Hafan.
Mae pob ceiniog a gyfrannir ar ran ein haelodau am lenwi’n holiaduron yn mynd tuag at gynnig a datblygu gofal a phrofiadau amrhreisadwy nid yn unig i’r plant a’r bobl ifanc sy’n derbyn y gofal ond i’w brodyr a’i chwiorydd a’i rhieni hefyd.
Os hoffech chi lenwi’n holiaduron er bydd ty Hafan ymunwch yma.