Partneriaeth Gyffrous

Mae Panel Cyfryngau Cymru yn falch iawn o gyhoeddi ein bod wedi ychwanegu elusen newydd at ein cynllun elusennol.

Byddwn yn cydweithio gydag Elusennau Iechyd Hywel Dda, sef elusen gofrestredig sy’n cefnogi cleifion, staff a gwasanaethau yn Sir Gâr, Ceredigion, Sir Benfro a thu hwnt.

Gallwch ddarllen mwy am waith arbennig yr elusen YMA

Bydd aelodau’r panel yn gallu dewis trosi’r credydau a geir am ateb ein holiaduron yn gyfraniad at Elusennau Iechyd Hywel Dda, wrth gofrestru YMA

Os ydych eisoes yn aelod o’r Panel ac yn dymuno trosi’ch credydau yn gyfraniad at Elusennau Iechyd Hywel Dda, gallwch gysylltu â ni drwy e-bostio  cymorth@panelcyfryngau.cymru

Gwobrau gwych am eich barn ar deledu yng Nghymru

Something went wrong with the twitter. Please check your credentials and twitter username in the twitter settings.