Category: live
Cyfeirio Ffrind 16 – 24 mlwydd oed

Mae Panel Cyfryngau Cymru wrthi’n chwilio am aelodau newydd yn y grŵp oedran 16-24 oed sy’n byw yng Nghymru, a byddwn yn eich gwobrwyo am ein helpu.
Mae’r cynllun Cyfeirio Ffrind yn eich galluogi i wahodd ffrindiau neu aelodau o’r teulu sydd yn y grŵp oedran 16-24 oed ac sy’n byw yng Nghymru, i ymuno â Phanel Cyfryngau Cymru.
I gymryd rhan:
- Byddwch ar eich gwyliadwriaeth am neges e-bost yn eich gwahodd i gyfeirio ffrind
- Gofynnwch i’ch ffrind(iau) /aelod(au) o’ch teulu am ganiatâd i’w gwahodd i fod ar Banel Cyfryngau Cymru
- Cyfeiriwch eich ffrind(iau) /aelod(au) o’ch teulu os ydyn nhw yn y grŵp oedran 16–24 oed, trwy roi eu henw llawn a’u cyfeiriad e-bost yn yr holiadur cyfeirio ffrind a anfonwyd gennym
- Byddwn wedyn yn anfon gwahoddiad at eich ffrind(iau)/ aelod(au) o’ch teulu yn eu gwahodd i ymuno â Phanel Cyfryngau Cymru
Mae mor syml â hynny!
I ddiolch i chi am eich ymdrechion, wedi i’ch ffrind/aelod o’r teulu lenwi 5 holiadur wythnosol, byddwn yn anfon taleb Amazon gwerth £5 atoch. Mae hyn yn ychwanegol at eich gwobrau a’ch credydau arferol, a’r cyfleoedd arferol i ennill gwobrau mewn cystadlaethau.
Byddwch ar eich gwyliadwriaeth am neges e-bost yn eich gwahodd i gyfeirio ffrind!
Gwobrau gwych am eich barn ar deledu yng Nghymru
Adolygiad o 2022

Mae hi’n amser edrych nôl a chrynhoi 2022. Yn gyntaf, rydym am ddiolch i holl aelodau Panel Cyfryngau Cymru am gymryd yr amser i rannu manylion yr hyn ry’ch chi’n ei wylio ar y teledu ac ar gyfryngau eraill.
Diolch i gyfuniad ymdrechion ein haelodau hirsefydlog a’n haelodau newydd o Banel Cyfryngau Cymru, rydym wedi gallu danfon talebau siopa gwerth £11,840 yn 2022, a hynny’n syml am lenwi holiaduron.
Y llynedd rhoddodd aelodau gyfanswm hael o £1,550 o’u gwobrau i’r elusennau yng Nghymru a enwebwyd, gan roi budd i bobl eraill yng Nghymru.
Braf hefyd yw rhannu bod cynllun codi arian Panel Cyfryngau Cymru ar gyfer grwpiau cymunedol wedi dyrannu £2,810 i grwpiau cymunedol gweithgar yn 2022. Mae’n dda gweld aelodau yn codi arian ar gyfer eu cymuned leol, eu cymdeithas, neu grŵp chwaraeon! Os ydych chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod yn rhan o grŵp cymunedol ac os hoffech godi arian ychwanegol – anfonwch e-bost at ein tîm, at cymorth@panelcyfryngau.cymru, i weld sut y gallai Panel Cyfryngau Cymru eich helpu chi gyda’ch ymdrechion.
Rydym yn bwriadu bod yn weithgar yn ymweld ag amryw ddigwyddiadau cymunedol a chenedlaethol yng Nghymru dros y flwyddyn sydd i ddod – felly chwiliwch amdanom a chofiwch ddod i ddweud ‘Helô’. Yn union fel y llynedd, bydd rhai ohonoch yn enillwyr lwcus yng nghystadlaethau 2023 – felly gwyliwch am gyfleoedd i ennill gwobrau gwych.
Unwaith eto, diolch yn fawr iawn i holl aelodau Panel Cyfryngau Cymru am gwblhau eich holiaduron, a’n helpu gyda’n hymchwil – ry’n ni’n gwerthfawrogi pob un ymateb yn fawr iawn, ac rydych yn helpu i lunio dyfodol teledu, radio, gêmau, a chyfryngau ar-lein yng Nghymru.
Dyma ddymuno blwyddyn hapus, iach, a gwerth chweil i chi yn 2023!
Gwobrau gwych am eich barn ar deledu yng Nghymru
Enillydd y Gystadleuaeth Gyflym

Llongyfarchiadau i Melissa o Gaerffili ar ennill taleb Amazon gwerth £25 yn ein Cystadleuaeth Gyflym yr wythnos ddiwethaf.
Gwobrau gwych am eich barn ar deledu yng Nghymru
Diweddaru’r Hysbysiad Preifatrwydd / Amodau a Thelerau

Yn rhan o’n hymdrechion parhaus i wella tryloywder o ran sut yr ydym yn defnyddio’ch data personol, yn cadw’ch manylion yn ddiogel ac yn dilyn y canllawiau diogelu data diweddaraf, rydym wedi diweddaru ein Hysbysiad Preifatrwydd a’n Hamodau a Thelerau.
Mae ein Hysbysiad Preifatrwydd yn dweud wrthych sut yr ydym yn defnyddio’r wybodaeth yr ydym yn ei chasglu gennych, yn ei storio ac yn ei diogelu, gyda phwy yr ydym yn rhannu eich data a beth yw’ch Hawliau Preifatrwydd. Yn ôl yr arfer, cedwir eich holl wybodaeth bersonol yn gyfrinachol ac yn ddiogel, ac mae Panel Cyfryngau Cymru yn dal i warantu y bydd aelodau’n ddienw ac y bydd cyfrinachedd aelodau yn cael ei barchu.
Cliciwch YMA i ddarllen yr Hysbysiad Preifatrwydd wedi’i ddiweddaru.
Mae ein Hamodau a Thelerau yn dweud wrthych beth yw’r telerau, y rheolau a’r canllawiau i ymddygiad derbyniol y disgwylir i aelodau gadw atynt, ac maent hefyd yn rhoi gwybodaeth am ein holiaduron a’n gwobrau.
Cliciwch YMA i ddarllen yr Amodau a Thelerau wedi’u diweddaru.
Gwobrau gwych am eich barn ar deledu yng Nghymru
Codi Arian ar gyfer Grwpiau Cymunedol

Ydych chi’n rhedeg grwp cymunedol yng Nghymru ac yn chwilio am ffyrdd i godi arian i gefnogi eich gweithgareddau? Beth am estyn gwahoddiad i’ch aelodau ymuno mewn digwyddiad rhithwir gyda ni ym Mhanel Cyfryngau Cymru a darganfod sut y gall eich grŵp godi hyd at £500 y flwyddyn!
Cysylltwch gyda Bethan 07947 129 227 neu ewch i https://panelcyfryngau.cymru/gwobrau/#gs am fwy o wybodaeth.
Gwobrau gwych am eich barn ar deledu yng Nghymru
Gwahoddiad i ddysgwyr ac unrhyw siaradwyr Cymraeg newydd yng Nghymru i gymryd rhan ar Banel Cyfryngau Cymru

Pam?
I ddweud beth ydych chi’n gwylio ar y teledu, ar-lein ac ar sianeli eraill ac i gasglu gwobrau fel talebau siopa Amazon!
Pryd?
Bob wythnos…i ateb cwestiynnau hawdd yn y Gymraeg – neu dewiswch yr opsiwn ddwyieithog i helpu.
Sut?
Ymunwch yma www.panelcyfryngau.cymru
Cyfle arall i ymarfer a defnyddio Cymraeg tu allan i’r dosbarth hefyd!
Mae Panel Cyfryngau Cymru yn cael ei redeg gan gwmni ymchwil TRP Research ar ran S4C. Rydym angen gwybod ba mor rhugl ydych chi yn y Gymraeg, i sicrhau bod ein panel yn cynrychioli poblogaeth Cymru.
Gwobrau gwych am eich barn ar deledu yng Nghymru
Galw ar bobl ifanc Cymru!

Galw ar bobl ifanc Cymru i gymryd rhan mewn Ymchwil i’r Cyfryngau.
Mae Panel Cyfryngau Cymru ar hyn o bryd yn chwilio am bobl ifanc 16 – 24 oed, o bob rhan o Gymru, i lenwi holiaduron am raglenni teledu a chyfryngau eraill.
Mae’r holiaduron wythnosol yn hawdd a chyflym i’w llenwi a chewch ddewis cael eich gwobrwyo gyda thalebau siopa Amazon neu roi eich gwobrau i elusen. Os ydych yn perthyn i grŵp cymunedol (e.e. clwb chwaraeon lleol) beth am ofyn iddyn nhw gymryd rhan hefyd? Gyda’ch gilydd gallech ennill hyd at £500 y flwyddyn i’ch grŵp/clwb!
Arweinir yr ymchwil gan gwmni ymchwil TRP Research ar ran S4C.
Ymunwch ar-lein www.panelcyfryngau.cymru
neu
cysylltwch â Bethan: 07947 129227.
Gwobrau gwych am eich barn ar deledu yng Nghymru
2020

Bu 2020 yn flwyddyn wahanol iawn i’r arfer.
Oherwydd y Coronafeirws bu’n rhaid i ni, fel pawb arall, newid ein ffyrdd o weithio. Ymhlith y newidiadau fe wnaethom ni gynnig gwasanaeth galwadau ffôn i’n haelodau a oedd fel arfer yn derbyn holiaduron drwy’r post, ymuno gyda digwyddiadau rhithwir yn hytrach na’r digwyddiadau y byddwn ni fel arfer yn mynd iddynt a hysbysebu mwy ar-lein.
Rydym yn hynod ddiolchgar i’r holl aelodau am eu cefnogaeth barhaus ac yn falch o allu cyhoeddi ein bod wedi gwobrwyo’n haelodau gyda gwerth £12,200 o dalebau siopa, £3,400 o arian tuag at grwpiau cymunedol ac wedi cyfrannu £1,965 tuag at elusennau ar ran ein haelodau.
Gwobrau gwych am eich barn ar deledu yng Nghymru
Codi Arian

Wyddech chi fod modd i grwpiau, clybiau neu elusennau lleol godi arian drwy annog eu haelodau/cefnogwyr i lenwi’n holiaduron syml?
Bydd angen i chi annog rhwng 2 ac 20 aelod/cefnogwr i ymuno â’r panel a nodi enw eich grŵp/clwb/elusen ar y ffurflen ymaelodi i dderbyn eu gwobr am lenwi’r holiaduron.
Unwaith y bydd eich aelodau/cefnogwyr wedi ymaelodi, byddant yn cael holiadur wythnosol ynglŷn â beth maent yn ei wylio ac yn gwrando arno. Yna, bob tro y bydd aelod yn llenwi un o’n holiaduron wythnosol, bydd eich grŵp, clwb neu elusen yn cael eu credydau.
Unwaith y bydd eich aelodau/cefnogwyr wedi casglu 100 credyd rhyngddynt, byddwn yn trosglwyddo £50 i gyfrif banc eich grŵp, clwb neu elusen.
Os hoffech fanylion pellach, cysylltwch â ni drwy ffonio 07494 506 962 neu e-bostio cymorth@panelcyfryngau.cymru
Gwobrau gwych am eich barn ar deledu yng Nghymru
Enillwyr y Gystadleuaeth

Llongyfarchiadau i enillwyr ein cystadleuaeth Nadolig:
Cai o Gaerdydd
Gwawr o Geredigion
Delyth o Fro Morgannwg
Heb ennill? Peidiwch â digalonni, bydd cystadleuaeth eto’n fuan.
Gwobrau gwych am eich barn ar deledu yng Nghymru