Cystadleuaeth yr Ŵyl 2025

Cystadleuaeth yr Ŵyl 2025!
“Nadolig Llawen” i holl aelodau Panel Cyfryngau Cymru! Gobeithio y cewch amser hyfryd dros gyfnod yr Ŵyl a Blwyddyn Newydd Hapus dros ben!
I ddathlu tymor yr Ŵyl, rydyn ni’n cynnig cyfle i’n haelodau i ENNILL gwobr yn ein cystadleuaeth arbennig ar gyfer y Nadolig! Eleni y wobr yw e-gerdyn adrahome gwerth £50. Gallech siopa o gasgliad adra o roddion a nwyddau cyfoes Cymreig ar gyfer y cartref, i sbwylio’ch hun yn 2026!
Bydd angen i chi fod yn aelod o Banel Cyfryngau Cymru i gymryd rhan. Byddwn yn rhoi’ch enw yn yr het bob tro y byddwch chi’n llenwi un o’r holiaduron canlynol:
Holiadur 15/12/2025 – 21/12/2025
Holiadur 22/12/2025 – 28/12/2025
Byddwn yn tynnu’r enwau buddugol allan o’r het ar 07/01/2026.
Pob lwc!
| 1. Yr hyrwyddwr yw: TRP Research Ltd (rhif y cwmni: 03825912) ac mae ei swyddfa yn Wellington House, Queen Street, Taunton, Somerset, TA1 3UF. 2. Ni chaniateir i gyflogeion TRP Research, nac aelodau o’u teulu, nac unrhyw un arall sy’n gysylltiedig mewn unrhyw ffordd â’r gystadleuaeth, neu â’r broses o helpu gosod y gystadleuaeth, ymgeisio yn y gystadleuaeth. 3. Nid oes tâl i gystadlu, ac nid oes angen prynu unrhyw beth cyn cystadlu yn y gystadleuaeth hon. 4. Byddwn yn tynnu enwau’r enillwyr allan o’r het 07/01/2026. Ar ôl y dyddiad hwn ni chaniateir i unrhyw un arall gystadlu yn y gystadleuaeth. 5. Bydd aelodau Panel Cyfryngau Cymru yn cael gwybod pwy yw’r enillydd/wyr drwy e-bost unwaith y bydd yr enillydd/wyr wedi derbyn y wobr, a hynny fel arfer o fewn ychydig wythnosau ar ôl tynnu enw/au’r enillydd/wyr o’r het. Byddwn hefyd yn cyhoeddi’r manylion ar wefan Panel Cyfryngau Cymru ac ar dudalennau cyfryngau cymdeithasol Panel Cyfryngau Cymru. 6. Ni ellir derbyn cyfrifoldeb dros unrhyw ymgais nad ydyw wedi ein cyrraedd, am ba reswm bynnag. 7. Mae rheolau’r gystadleuaeth a’r wobr i bob enillydd fel a ganlyn: a. Rhaid eich bod yn aelod o Banel Cyfryngau Cymru cyn i chi allu cystadlu yn y gystadleuaeth hon. b. Cewch gystadlu unwaith yn y gystadleuaeth ar gyfer pob un o’r holiaduron canlynol y byddwch yn eu cwblhau: Holiadur 15/12/2025 – 21/12/2025 c. Bydd enillydd y gystadleuaeth yn ennill e-gerdyn rhodd adrahome gwerth £50. 8. Mae’r Hyrwyddwr yn cadw’r hawl i ganslo neu ddiwygio’r gystadleuaeth, a’r amodau a thelerau hyn. Fe fydd yr Hyrwyddwr yn hysbysu’r rheiny sydd wedi cystadlu ynghylch unrhyw newid i’r gystadleuaeth, cyn gynted â phosibl. 9. Nid yw’r hyrwyddwr yn gyfrifol am unrhyw fanylion anghywir ynghylch y wobr a roddir i ymgeisydd gan unrhyw un arall sy’n gysylltiedig â’r gystadleuaeth hon. 10. Ni chynigir unrhyw wobr ariannol yn lle’r gwobrau. Ni ellir trosglwyddo’r gwobrau. Mae’r gwobrau’n amodol ar eu hargaeledd a chedwir yr hawl i gynnig unrhyw wobr arall o’r un gwerth yn eu lle, a hynny’n ddirybudd. 11. Dewisir enillwyr ar hap o blith pob ymgais a ddaeth i law, gan ddefnyddio meddalwedd. Dilysir y broses gan TRP Research. 12. Hysbysir yr enillydd trwy e-bost neu lythyr neu alwad ffôn o fewn 28 niwrnod i’r dyddiad cau. Os nad oes modd cysylltu â’r enillydd, neu os nad yw’n hawlio’r wobr o fewn 7 niwrnod i’r hysbysiad, cedwir yr hawl i dynnu’r wobr yn ôl oddi wrth yr enillydd a dewis enillydd arall yn ei le. 13. Fe fydd yr hyrwyddwr yn dweud wrth yr enillydd pryd y gall gasglu’r wobr ac ym mhle. 14. Mae penderfyniad yr hyrwyddwr ynghylch pob mater yn ymwneud â’r gystadleuaeth yn derfynol ac ni fydd yn gohebu ynghylch y mater. |
Gwobrau gwych am eich barn ar deledu yng Nghymru
Something went wrong with the twitter. Please check your credentials and twitter username in the twitter settings.
