2018
Roedd 2018 yn flwyddyn brysur arall i Banel Cyfryngau Cymru.
Cawsom flwyddyn brysur yn recriwtio a thrafod gyda’n haelodau mewn sawl digwyddiad cenedlaethol, gan gynnwys dau ymweliad â Llanelwedd ar gyfer Eisteddfod yr Urdd a’r Sioe Frenhinol, yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mae Caerdydd ynghyd â llawer o ddigwyddiadau lleol a grwpiau cymunedol ar hyd a lled y wlad.
Rydym yn gwobrwyo’n haelodau am bob holiadur a lenwir, ac yn falch iawn o gyhoeddi ein bod wedi rhoi’r gwobrau canlynol i’n haelodau yn ystod 2018:
Gwerth £11,290 o dalebau siopa
Cyfrannu £1,650 i elusennau
Cyfrannu £4,339 i grwpiau cymunedol
Rydym yn falch iawn o dwf y Panel ac yn ddiolchgar iawn i’n haelodau am eu cefnogaeth barhaus.
Os hoffech chi ddarganfod mwy am y Panel, ewch i’n gwefan www.panelcyfryngau.cymru neu rhowch alwad i ni ar 07947 129227