Ymweliad Arbennig: Tŷ Gobaith

Mae nifer o’n panelwyr ar Banel Cyfryngau Cymru yn dewis troi y credydau y maen nhw’n eu hennill wrth lenwi ein holiaduron, yn rhoddion i elusen. Felly roeddwn yn falch iawn o gael y cyfle i ymweld â Tŷ Gobaith, un o’n helusennau enwebedig, er mwyn meithrin ein perthynas a dod i rannu mwy am eu gwaith arbennig gyda chi.

Roeddwn yn cyfarfod Eluned Yaxley, Uwch Swyddog Codi Arian, er mwyn trafod y bartneriaeth rhwng Panel Cyfryngau Cymru â Ty Gobaith ac i ddysgu mwy am sut mae rhoddion yn darparu gofal a chefnogaeth i blant a phobl ifanc angheuol wael a’u teuluoedd o Ogledd a Chanolbarth Cymru.

Mae Eluned a’r swyddfa codi arian o fewn muriau tre Conwy, ond mae’r hosbis ei hun wedi ei lleoli mewn man sydd ag un o’r golygfeydd mwyaf trawiadol yng Nghymru, yn fy marn i, yn edrych ar draws yr Aber.

Mae hi’n naturiol ddigon credu y byddai hosbis yn lle prudd ac yn llond wynebau trist, ond mewn gwirionedd, er bod y rhan helaeth o blant sydd yn mynychu Tŷ Gobaith yn byw gyda chyflyrau sy’n bygwth bywyd neu gyflyrau lle mae marwolaeth gynamserol yn anochel, mae Tŷ Gobaith yn lle llawn gwên hefyd.


Bethan Vaughan Cartwright (Panel Cyfryngau Cymru ) ac Eluned Yaxley (Tŷ Gobaith).

Mae staff a gwirfoddolwyr yn darparu amgylchedd diogel, cariadus a hapus ar gyfer y plant a’u rhieni er mwyn gwneud y gorau o’r amser sydd ganddynt gyda’i gilydd.

Os hoffech wybod mwy am Tŷ Gobaith ewch at www.hopehouse.org.uk

Mae’r arian sy’n cael ei godi gan ein haelodau, wrth iddyn nhw lenwi holiaduron syml bob wythnos am yr hyn y maen nhw’n ei wylio ar deledu, yn cyfrannu at ddarparu a datblygu gofal a phrofiadau i’r plant hynny sy’n derbyn gofal.

Os hoffech chi lenwi’n holiaduron er budd Tŷ Gobaith, ymunwch yma.

Gwobrau gwych am eich barn ar deledu yng Nghymru

Something went wrong with the twitter. Please check your credentials and twitter username in the twitter settings.