Adolygiad o 2023

Crynhoi 2023

Hoffem ddiolch yn fawr i chi i gyd am gymryd yr amser i rannu eich arferion gwylio cyfryngau dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae’n amser rhannu sut gawsoch chi eich gwobrwyo am lenwi ein holiaduron – p’un a ydych yn cael eich gwobrwyo mewn talebau siopa, gyda chyfraniadau at grŵp cymunedol neu roddion elusennol.

Fe wnaethom rannu gwerth £13,205 o dalebau siopa y llynedd a hynny dim ond am lenwi holiaduron.

Ariannu grwpiau cymunedol 

Mae hefyd yn dda rhannu bod cynllun codi arian grŵp cymunedol Panel Cyfryngau Cymru yn 2023 wedi rhannu £2,765 rhwng grwpiau cymunedol. Da iawn i’r holl aelodau hynny sy’n codi arian ar gyfer eu cymuned, cymdeithas, côr neu grwpiau chwaraeon lleol. Cadwch lygad am yr holiaduron bonws hefyd – gan y byddant yn eich helpu i sicrhau mwy o wobrau ac arian gymaint ynghynt!

Rhoddion i elusennau

Parhaodd aelodau i gefnogi ein helusennau-partner yng Nghymru, gan roi £1,550 – swm hael fydd yn siŵr o helpu a rhoi budd i Tŷ Hafan, Ambiwlans Awyr Cymru, Age Cymru, Tŷ Gobaith, RSPCA ac Elusennau Iechyd Hywel Dda.

Enillwyr gwobrau

Roedd 14 aelod yn ddigon lwcus i ennill amrywiaeth o ddanteithion a nwyddau yn ein cystadlaethau yn ystod y flwyddyn – o’r talebau siopa yn ein cystadlaethau cyflym i siocledi, coffi a hamperi moethus o Gymru.

Cadwch lygad am fwy o gyfleoedd i gael eich gwobrwyo ac efallai mai chi fydd ymhlith yr enillwyr y tro nesaf!

Mwy o aelodau newydd i Banel Cyfryngau Cymru

Roedd hi’n braf cael croesawu llawer o aelodau newydd i Banel Cyfryngau Cymru, o Gaergybi i Hwlffordd o Wrecsam i Risga, pob un yn helpu i sicrhau bod pob ardal ledled Cymru yn cael ei chynrychioli yn yr ymchwil.

Rydym yn bwriadu teithio i fod mewn amryw o ddigwyddiadau eleni eto – felly dewch i ddweud ‘Helo’ os gwelwch chi ni!

Yn y cyfamser, dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol a darllenwch y newyddion diweddaraf ar ein tudalen newyddion.

Ymchwil i’ch arferion gwylio

Rydyn ni i gyd bellach yn defnyddio cyfryngau mewn llu o wahanol ffyrdd, ar ddyfeisiau, llwyfannau a sianeli gwahanol, felly mae’r manylion rydych chi’n eu rhoi i ni yn gynyddol bwysig i’n cleientiaid, gan gynnwys S4C.

Gyda’ch help chi, gallwn adrodd yn ôl ar y gwylio yng Nghymru – nid yn unig ‘yr hyn rydych chi’n ei wylio’, ond y tu ôl i’r niferoedd, gallwn ychwanegu ‘pam rydych chi’n gwylio’. Mae’r panel hefyd yn rhoi manylion gwylio ar draws y teledu, a llwyfannau a dyfeisiau gwahanol. Mae eich data o’r holiaduron yn cyfrannu at benderfyniadau strategol allweddol gan gynnwys amserlennu a chynnwys rhaglenni, ac mae’n rhoi mewnwelediad arbenigol i’n cleientiaid i’r hyn y mae gwylwyr ei eisiau a pham. Felly, rydych chi wir yn chwarae eich rhan wrth lunio dyfodol y cyfryngau yng Nghymru!

Rydyn ni’n edrych ymlaen at y flwyddyn i ddod – a pha bynnag raglenni y byddwch chi’n eu gwylio – dymunwn 2024 hapus, iach, a gwerth chweil i chi hefyd!

Os oes angen unrhyw help neu wybodaeth arnoch, ewch i’n gwefan www.panelcyfryngau.cymru neu ffoniwch Bethan ar 07947 129 227.

Gwobrau gwych am eich barn ar deledu yng Nghymru

Something went wrong with the twitter. Please check your credentials and twitter username in the twitter settings.