2017

Bu 2017 yn flwyddyn brysur a llwyddiannus iawn i dîm Panel Cyfryngau Cymru Media Panel Wales.

Teithiodd Sian a Bethan ar hyd a lled Cymru yn ymweld â grwpiau cymunedol, yn cynnal stondinau gwybodaeth ac yn cyfarfod â phartneriaid yn y gymuned, er mwyn hyrwyddo’r Panel.

Daeth gwahoddiad i ymweld â hosbis Tŷ Hafan yn yr Hydref a chawsom weld sut y mae’r arian a gesglir trwy’n cynllun elusennol yn cael ei wario yno. Fe gafodd ein blog ei gynnwys fel y blog dwyieithog cyntaf ar eu gwefan, yn dilyn yr ymweliad.

Bûm yn cydweithio’n agos gyda chwmnïau Cymreig er mwyn cynnig Cystadlaethau o safon gan gynnwys nosweithiau yng Ngwynedd a Cheredigion, tocyn teulu i Fferm Folly, cwpanau Mygbi a phecynnau Tregroes Waffles.

Fe wnaethom ymateb i adborth ein haelodau a chyflwyno diweddariadau, er mwyn gwneud yr holiadur yn haws ei lenwi i’n haelodau sy’n llenwi holiaduron ar-lein ac ar bapur.

Gwnaethom werth £1,645 o gyfraniadau ar ran ein haelodau i’n helusennau: Tŷ Hafan, Yr Ambiwlans Awyr, Elusennau Hywel Dda, Tŷ Gobaith a’r RSPCA <https://panelcyfryngau.cymru/gwobrau/#es>

Derbyniodd ein grwpiau cymunedol £3,150 <https://panelcyfryngau.cymru/gwobrau/#gs>

Anfonwyd gwerth £10,190 o dalebau siopa i’n haelodau <https://panelcyfryngau.cymru/gwobrau/#ds>

Rydym yn ddiolchgar iawn i’n holl aelodau a phartneriaid am eich cefnogaeth, ac yn edrych ymlaen at gydweithio ymhellach â chi yn 2018

Gwobrau gwych am eich barn ar deledu yng Nghymru

@PCCMPW
Ni’n mwynhau cyfarfod aelodau Panel Cyfryngau Cymru yn Eisteddfod yr Urdd #maes #heulog #bywiog It’s good to meet Media Panel Wales members at the Urdd Eisteddfod. #sunny #lively #event https://t.co/juFzScudTD
h J R
@PCCMPW
Chi’n mynd i Eisteddfod yr Urdd wythnos yma? Dewch draw i Gaban 14 i ddweud ‘Helo’! #cystadlaeuwyr #cofiwch #holiaduron #gwylybanc If you’re heading to the Urdd Eisteddfod this week? Pop into Cabin C14 to say Hi! #competitors #remember #surveys #bankholiday https://t.co/jLQoedok1r
h J R
@PCCMPW
Mae hi’n wythnos y #CynnigCymraeg Gallwch ddefnyddio’r Gymraeg gyda ni! Ewch i 'n gwefan https://t.co/xrgCw8bqw9 i gymryd rhan! It's #CynnigCymraeg week! You can use your Welsh with us! Go to our website https://t.co/oRnSqyKKeU to take part! https://t.co/VAxZXOVHxC
h J R
@PCCMPW
🎉 Llongyfarchiadau i Elfyn o Sir Gaerfyrddin ar ennill taleb Amazon gwerth £20 yn ein Cystadleuaeth Gyflym yr wythnos ddiwethaf. 🎉 🎉 Congratulations to Elfyn from Carmarthenshire, winner of a £20 Amazon voucher in our Flash Prize Draw last week. 🎉 https://t.co/dp5B0IOq8G
h J R
@PCCMPW
Mwynhewch Gŵyl y Banc… ..ond cofiwch am eich holiadur😉 #holiadur #barn #cyfryngau #gwylybanc Enjoy the bank holiday - ..but remember your survey 😉 #media #survey #youropinion #bankholiday https://t.co/jZBAC94GEL
h J R