2017

Bu 2017 yn flwyddyn brysur a llwyddiannus iawn i dîm Panel Cyfryngau Cymru Media Panel Wales.

Teithiodd Sian a Bethan ar hyd a lled Cymru yn ymweld â grwpiau cymunedol, yn cynnal stondinau gwybodaeth ac yn cyfarfod â phartneriaid yn y gymuned, er mwyn hyrwyddo’r Panel.

Daeth gwahoddiad i ymweld â hosbis Tŷ Hafan yn yr Hydref a chawsom weld sut y mae’r arian a gesglir trwy’n cynllun elusennol yn cael ei wario yno. Fe gafodd ein blog ei gynnwys fel y blog dwyieithog cyntaf ar eu gwefan, yn dilyn yr ymweliad.

Bûm yn cydweithio’n agos gyda chwmnïau Cymreig er mwyn cynnig Cystadlaethau o safon gan gynnwys nosweithiau yng Ngwynedd a Cheredigion, tocyn teulu i Fferm Folly, cwpanau Mygbi a phecynnau Tregroes Waffles.

Fe wnaethom ymateb i adborth ein haelodau a chyflwyno diweddariadau, er mwyn gwneud yr holiadur yn haws ei lenwi i’n haelodau sy’n llenwi holiaduron ar-lein ac ar bapur.

Gwnaethom werth £1,645 o gyfraniadau ar ran ein haelodau i’n helusennau: Tŷ Hafan, Yr Ambiwlans Awyr, Elusennau Hywel Dda, Tŷ Gobaith a’r RSPCA <https://panelcyfryngau.cymru/gwobrau/#es>

Derbyniodd ein grwpiau cymunedol £3,150 <https://panelcyfryngau.cymru/gwobrau/#gs>

Anfonwyd gwerth £10,190 o dalebau siopa i’n haelodau <https://panelcyfryngau.cymru/gwobrau/#ds>

Rydym yn ddiolchgar iawn i’n holl aelodau a phartneriaid am eich cefnogaeth, ac yn edrych ymlaen at gydweithio ymhellach â chi yn 2018

Gwobrau gwych am eich barn ar deledu yng Nghymru

Something went wrong with the twitter. Please check your credentials and twitter username in the twitter settings.