Galw ar bobl ifanc Cymru!

Galw ar bobl ifanc Cymru i gymryd rhan mewn Ymchwil i’r Cyfryngau.

Mae Panel Cyfryngau Cymru ar hyn o bryd yn chwilio am bobl ifanc 16 – 24 oed, o bob rhan o Gymru, i lenwi holiaduron am raglenni teledu a chyfryngau eraill.

Mae’r holiaduron wythnosol yn hawdd a chyflym i’w llenwi a chewch ddewis cael eich gwobrwyo gyda thalebau siopa Amazon neu roi eich gwobrau i elusen.  Os ydych yn perthyn i grŵp cymunedol (e.e. clwb chwaraeon lleol) beth am ofyn iddyn nhw gymryd rhan hefyd? Gyda’ch gilydd gallech ennill hyd at £500 y flwyddyn i’ch grŵp/clwb!

Arweinir yr ymchwil gan gwmni ymchwil TRP Research ar ran S4C.

Ymunwch ar-lein www.panelcyfryngau.cymru

neu

cysylltwch â Bethan: 07947 129227.

Gwobrau gwych am eich barn ar deledu yng Nghymru

Something went wrong with the twitter. Please check your credentials and twitter username in the twitter settings.