Eisteddfod Yr Urdd 2019

Cafwyd wythnos benigamp yn Eisteddfod Urdd Gobaith Cymru yn sgwrsio gydag aelodau hen a newydd.

Bydd pawb a ymunodd â’r panel ym Mae Caerdydd yn derbyn eu holiaduron cyntaf yn fuan –  Croeso i Banel Cyfryngau Cymru!

Gwobrau gwych am eich barn ar deledu yng Nghymru

Something went wrong with the twitter. Please check your credentials and twitter username in the twitter settings.

Elusennau

Wyddech chi fod modd cyfrannu at elusennau arbennig trwy lenwi holiaduron Panel Cyfryngau Cymru?

Gall aelodau ddewis cyfrannu’r credydau y byddent yn eu derbyn am lenwi’n holiaduron i un o’n helusennau.

Byddwn yn cyfrannu £5 i’r elusen bob tro bydd yr aelod wedi casglu 10 credyd.

Am wybodaeth bellach ewch draw i www.panelcyfryngau.cymru/gwobrau/#es

Rydym wedi cyfrannu £5,415 i elusennau ers lansio’r Panel.

Gwobrau gwych am eich barn ar deledu yng Nghymru

Something went wrong with the twitter. Please check your credentials and twitter username in the twitter settings.

2018

Roedd 2018 yn flwyddyn brysur arall i Banel Cyfryngau Cymru.

Cawsom flwyddyn brysur yn recriwtio a thrafod gyda’n haelodau mewn sawl digwyddiad cenedlaethol, gan gynnwys dau ymweliad â Llanelwedd ar gyfer Eisteddfod yr Urdd a’r Sioe Frenhinol, yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mae Caerdydd ynghyd â llawer o ddigwyddiadau lleol a grwpiau cymunedol ar hyd a lled y wlad.

Rydym yn gwobrwyo’n haelodau am bob holiadur a lenwir, ac yn falch iawn o gyhoeddi ein bod wedi rhoi’r gwobrau canlynol i’n haelodau yn ystod 2018:

Gwerth £11,290 o dalebau siopa

Cyfrannu £1,650 i elusennau

Cyfrannu £4,339 i grwpiau cymunedol

Rydym yn falch iawn o dwf y Panel ac yn ddiolchgar iawn i’n haelodau am eu cefnogaeth barhaus.

Os hoffech chi ddarganfod mwy am y Panel, ewch i’n gwefan www.panelcyfryngau.cymru neu rhowch alwad i ni ar 07947 129227

Gwobrau gwych am eich barn ar deledu yng Nghymru

Something went wrong with the twitter. Please check your credentials and twitter username in the twitter settings.

Tymor Newydd

Chwilio am ffordd syml o godi arian i’r ysgol, cymdeithas rhieni neu feithrinfa leol?

Beth am annog grŵp o bobl i lenwi’n holiaduron syml? Gallech dderbyn hyd at £500 y flwyddyn!

Am wybodaeth bellach ewch i https://panelcyfryngau.cymru/gwobrau/#gs neu ffoniwch ni ar 07947 129227.

Gwobrau gwych am eich barn ar deledu yng Nghymru

Something went wrong with the twitter. Please check your credentials and twitter username in the twitter settings.

Ymweliad Arbennig: Tŷ Gobaith

Mae nifer o’n panelwyr ar Banel Cyfryngau Cymru yn dewis troi y credydau y maen nhw’n eu hennill wrth lenwi ein holiaduron, yn rhoddion i elusen. Felly roeddwn yn falch iawn o gael y cyfle i ymweld â Tŷ Gobaith, un o’n helusennau enwebedig, er mwyn meithrin ein perthynas a dod i rannu mwy am eu gwaith arbennig gyda chi.

Roeddwn yn cyfarfod Eluned Yaxley, Uwch Swyddog Codi Arian, er mwyn trafod y bartneriaeth rhwng Panel Cyfryngau Cymru â Ty Gobaith ac i ddysgu mwy am sut mae rhoddion yn darparu gofal a chefnogaeth i blant a phobl ifanc angheuol wael a’u teuluoedd o Ogledd a Chanolbarth Cymru.

Mae Eluned a’r swyddfa codi arian o fewn muriau tre Conwy, ond mae’r hosbis ei hun wedi ei lleoli mewn man sydd ag un o’r golygfeydd mwyaf trawiadol yng Nghymru, yn fy marn i, yn edrych ar draws yr Aber.

Mae hi’n naturiol ddigon credu y byddai hosbis yn lle prudd ac yn llond wynebau trist, ond mewn gwirionedd, er bod y rhan helaeth o blant sydd yn mynychu Tŷ Gobaith yn byw gyda chyflyrau sy’n bygwth bywyd neu gyflyrau lle mae marwolaeth gynamserol yn anochel, mae Tŷ Gobaith yn lle llawn gwên hefyd.


Bethan Vaughan Cartwright (Panel Cyfryngau Cymru ) ac Eluned Yaxley (Tŷ Gobaith).

Mae staff a gwirfoddolwyr yn darparu amgylchedd diogel, cariadus a hapus ar gyfer y plant a’u rhieni er mwyn gwneud y gorau o’r amser sydd ganddynt gyda’i gilydd.

Os hoffech wybod mwy am Tŷ Gobaith ewch at www.hopehouse.org.uk

Mae’r arian sy’n cael ei godi gan ein haelodau, wrth iddyn nhw lenwi holiaduron syml bob wythnos am yr hyn y maen nhw’n ei wylio ar deledu, yn cyfrannu at ddarparu a datblygu gofal a phrofiadau i’r plant hynny sy’n derbyn gofal.

Os hoffech chi lenwi’n holiaduron er budd Tŷ Gobaith, ymunwch yma.

Gwobrau gwych am eich barn ar deledu yng Nghymru

Something went wrong with the twitter. Please check your credentials and twitter username in the twitter settings.

Llongyfarchiadau

Amanda o Fro Morgannwg  ar ennill basged o nwyddau gan gwmni Cariad Coffee yn ein cystadleuaeth ddiweddar. Mwynhewch!

Gwobrau gwych am eich barn ar deledu yng Nghymru

Something went wrong with the twitter. Please check your credentials and twitter username in the twitter settings.